Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio offeryn newydd er mwyn helpu i leihau anghydraddoldeb iechyd

Cyhoeddwyd: 23 Mehefin 2023.

Mae platfform digidol newydd yn cael ei lansio er mwyn helpu rhanddeiliaid i ddatblygu mesurau i leihau anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru. Wedi'i ddatblygu gan y tîm Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yng Nghanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, mae’n offeryn ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, awdurdodau lleol a gwneuthurwyr polisi er mwyn helpu i ysgogi syniadau a dod o hyd i atebion i broblemau tegwch.  

Bydd Platfform Atebion Tegwch Iechyd Cymru yn gweithredu fel ystorfa  o wybodaeth, astudiaethau achos ac ymyriadau blaenorol a ddefnyddir er mwyn helpu i fynd i'r afael ag annhegwch a rhannu arfer da yng Nghymru.  

Mae'r platfform yn cynnwys offer data chwiliadwy a swyddogaeth llunio adroddiadau sy'n galluogi defnyddwyr i fewnbynnu eu termau chwilio a pharatoi allbynnau sy'n gysylltiedig â'r termau hynny. Mae'r platfform hefyd yn cynnig nodwedd sbotolau y gellir ei defnyddio i amlygu atebion neu themâu penodol. 

Bydd y tîm yn datblygu'r platfform dros amser er mwyn ychwanegu cynnwys a nodweddion ychwanegol.  

Bydd y platfform yn cael ei lansio mewn gweminar ar 22 Mehefin 2023, cynhelir gweminarau pellach i amlygu defnyddiau a datblygiadau newydd y system. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu gweminarau yn y dyfodol, gallwch gofrestru YMA.

Llwyfan Datrysiadau Ecwiti Iechyd Cymru.