Cyhoeddwyd: 11 Gorfennaf 2022
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio e-gatalog newydd, am ddim i helpu timau ac unigolion sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus, i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd a newid hinsawdd, ac annog ymddygiad cynaliadwy yn eu bywyd gwaith a'u bywyd cartref.
Mae gan bob corff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd i weithio tuag at ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ac mae'r adnodd newydd hwn yn egluro'n glir y cysylltiadau rhwng pob cyhoeddiad a'r nodau.
Meddai Rebecca Masters, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ‘Mae amrywiaeth eang o adnoddau ar gael i gefnogi gweithredu ar ddatblygu cynaliadwy a all fod yn anodd ei lywio. Mae'r e-gatalog hwn yn siop un stop wych o adnoddau a gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i unigolion, timau a sefydliadau wrth gyflawni eu hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy.”
Mae'r e-gatalog yn rhan o waith parhaus gan y Ganolfan Iechyd a Chynaliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae'n rhoi crynodeb ac esboniad byr o adnoddau sy'n cefnogi ac yn annog unigolion, timau a sefydliadau i gymryd camau gweithredu i wella ffyrdd o fyw a gweithio a gofalu am iechyd a llesiant pobl a'r blaned. Y nod yw rhoi crynodeb defnyddiol, cyflym fel y gall pobl benderfynu beth y maent am ei ddarllen er diddordeb a'u cefnogi i gymryd camau ymarferol.
Mae rhai o'r adnoddau a nodwyd wedi'u hanelu at lefel unigol neu dîm, rhai ar lefel polisi sefydliad, cenedlaethol, neu ryngwladol. Ceir dolenni defnyddiol i wybodaeth, sefydliadau ac adnoddau eraill.
Gellir lawrlwytho'r catalog am ddim o: