Cyhoeddwyd: 24 Tachwedd 2025
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael ei ddynodi gan Sefydliad Iechyd y Byd/Ewrop yn ganolfan gydweithredol newydd ar gyfer tegwch iechyd digidol. Bydd y ganolfan gydweithredol hon yn chwarae rhan allweddol wrth lunio gwaith Sefydliad Iechyd y Byd ar degwch iechyd digidol a chryfhau cydweithio ac eirioli ymhlith rhanddeiliaid rhanbarthol yn y maes hwn.
Canfu astudiaeth a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd/Ewrop yn 2022 nad yw offer iechyd digidol yn gyfartal hygyrch i bawb yn Ewrop. Pobl ag iechyd gwael, mewnfudwyr ac oedolion hŷn sy'n wynebu'r heriau mwyaf wrth ddefnyddio technolegau digidol. Defnyddir technolegau iechyd digidol yn fwy cyffredin mewn ardaloedd trefol, a llai gan bobl o leiafrifoedd ethnig a'r rhai sy'n wynebu rhwystrau iaith. Canfu'r ymchwil hefyd fod mwy o iechyd digidol yn cael ei ddefnyddio gan bobl â lefelau addysg uwch a statws economaidd uwch.
Fel Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfrannu at ymchwil, casglu tystiolaeth ac adolygiadau technegol i gefnogi gwaith Sefydliad Iechyd y Byd ar degwch iechyd digidol ar lefelau rhanbarthol a byd-eang. Mae meysydd allweddol o gydweithio yn cynnwys cefnogi gweithrediad Cynllun Gweithredu Iechyd Digidol Rhanbarthol 2023–2030, nodi arferion gorau, ac arwain datblygiad polisi iechyd digidol cynhwysol.
“Mae systemau iechyd yng Nghymru ac ar draws rhanbarth Ewrop yn croesawu defnyddio technolegau digidol a chofnodion iechyd electronig i wella iechyd ac atal salwch. Mae'r offer hyn yn cynnig potensial sylweddol, ond os anwybyddwn faterion fel mynediad anghyfartal, llythrennedd digidol, a rhagfarn fewnol, rydym mewn perygl o ehangu anghydraddoldebau iechyd presennol. Drwy weithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd, ein nod yw sicrhau bod arloesedd digidol yn cael ei arwain gan anghenion defnyddwyr, tegwch a meddwl trwy systemau. Fel bod iechyd digidol yn lleihau, nid yn atgyfnerthu, anghydraddoldebau iechyd” meddai’r Athro Alisha Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Data, Digidol ac Ymchwil, a Phennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Yn aml, y bobl sy’n debygol o elwa fwyaf ar arloesedd digidol yw’r cyntaf i gael eu gadael ar ôl,” meddai Dr Natasha Azzopardi Muscat, Cyfarwyddwr Systemau Iechyd yn Sefydliad Iechyd y Byd/Ewrop.
“Dim ond 25 o wledydd yn ein Rhanbarth sydd wedi gweithredu cynllun cynhwysiant digidol. Mae angen inni ddeall yn well a mynd i'r afael â'r ffactorau sy'n achosi'r anghydraddoldeb hwn, fel y gallwn wella gallu pawb i gael mynediad at dechnolegau iechyd digidol, eu defnyddio a chael budd gwirioneddol ohonynt. Bydd hyn wrth wraidd ein partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.”
Yn ei adroddiad cynnydd ar y Cynllun Gweithredu Iechyd Digidol Rhanbarthol, cadarnhaodd Sefydliad Iechyd y Byd/Ewrop ei ymrwymiad i ehangu rhwydwaith o ganolfannau cydweithredol er mwyn hyrwyddo gwaith trawsnewid digidol mewn systemau iechyd. Gyda'r dynodiad newydd hwn, mae 4 canolfan gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar iechyd digidol yn Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd bellach.