Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi cyngor yn dilyn prif bibell ddŵr wedi byrstio yn Sir y Fflint

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog trigolion yr effeithiwyd arnynt gan y brif bibell ddŵr sydd wedi byrstio yn Sir y Fflint i gymryd camau i amddiffyn eu hiechyd a'u llesiant yn ystod y tarfu parhaus ac i ofalu am eu teuluoedd, ffrindiau a chymdogion.

Cynghorir pobl i hydradu trwy yfed yr un faint o ddŵr ag arfer, yn enwedig yn ystod tywydd cynnes. Gellir casglu dŵr o orsafoedd dŵr Dŵr Cymru yn yr ardal. Mae'n bwysig iawn sicrhau bod plant ifanc a'r henoed hefyd yn yfed digon o ddŵr.

Mae hylendid dwylo yn parhau i fod yn bwysig — golchwch eich dwylo â sebon a dŵr, neu defnyddiwch jel dwylo ag alcohol, cyn paratoi bwyd, ar ôl defnyddio'r toiled ac ar ôl newid clytiau.

I'r rhai sy'n bwydo babanod, mae dŵr potel a gyflenwir gan Ddŵr Cymru yn ddiogel i'w ddefnyddio. Peidiwch â defnyddio dŵr potel o'r archfarchnad ar gyfer llaeth fformiwla, oherwydd y gallai gynnwys gormod o sodiwm.

Gellir casglu dŵr potel a gyflenwir gan Dŵr Cymru o’r lleoedd canlynol:

· Pafiliwn Jade Jones, Y Fflint CH6 5ER

· Maes Parcio a Theithio, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, CH5 2NY

· Maes Parcio Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF.

Dylid berwi dŵr potel Dŵr Cymru a gadael iddo oeri cyn paratoi llaeth fformiwla. Gellir defnyddio llaeth fformiwla parod hefyd.

Er mwyn helpu i reoli anghenion y cartref, gall pobl ailddefnyddio dŵr o goginio neu olchi llestri i fflysio toiledau ac ystyriwch ffynonellau eraill diogel fel casgenni dŵr yn yr ardd.