Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu gwaharddiad ar anweddau tafladwy

Cyhoeddwyd: 30 Mai 2025

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi croesawu cyflwyno'r gwaharddiad ar fêps untro, a ddaw i rym yng Nghymru ac ar draws y DU ddydd Sul 1 Mehefin.  Mae consensws clir ymhlith arbenigwyr iechyd bod argaeledd a marchnata cynhyrchion fêps untro wedi ysgogi cynnydd sylweddol mewn fepio ymhlith plant a phobl ifanc, gyda bron 1 o bob 6 (16 y cant) o fyfyrwyr blwyddyn un ar ddeg yn defnyddio fêps yn rheolaidd a bron hanner wedi rhoi cynnig ar fepio*.  Nid yw'r rhan fwyaf o'r bobl ifanc hyn erioed wedi smygu cyn dechrau fepio. 

Bydd Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 yn mynd i'r afael â phryderon amgylcheddol ac iechyd ynghylch twf fêps untro.  Mae'r rhain wedi cynnig cynnyrch rhad, hawdd ei ddefnyddio ac sydd ar gael yn eang sydd wedi bod yn ddeniadol ac yn hawdd ei gyrraedd i blant a phobl ifanc, er ei bod yn anghyfreithlon gwerthu fêps nicotin i bobl ifanc o dan 18 oed, neu i oedolion eu prynu ar gyfer y grŵp oedran hwn. 

Mae'r rhan fwyaf o fêps yn cynnwys nicotin, sy'n sylwedd caethiwus a gall defnydd rheolaidd arwain at ysfeydd, yn ogystal ag effeithio ar y gallu i ganolbwyntio, y cof a'r gallu i ddysgu.  Gall diddyfnu o nicotin effeithio ar gwsg, achosi cur pen, effeithio ar lesiant meddyliol a chreu hwyliau oriog.   

Meddai Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae'r dystiolaeth yn glir: ni ddylai plant a phobl ifanc fepio.  Er bod fepio yn fwy diogel na smygu i oedolion, nid yw heb risg ac nid oes gennym ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r effeithiau hirdymor ar iechyd eto.  

“Mae'r gwaharddiad ar fêps untro yn gam pwysig wrth gymryd camau brys i atal cenhedlaeth newydd o bobl ifanc sy'n gaeth i nicotin. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn dysgu o'n profiad gyda thybaco a gweithio mor galed â phosibl i atal y defnydd o fêps gan blant a phobl ifanc. 

“Cyn bo hir, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio ychwanegiad newydd i wefan Helpa Fi i Stopio, a fydd yn cynnig offeryn digidol am ddim, wedi'i bersonoli gyda'r nod o helpu pobl i roi'r gorau i fepio a smygu'n ddiogel.  Mae'r offeryn hwn wedi'i gynllunio i alluogi pobl i leihau eu dibyniaeth ar gynhyrchion nicotin a bydd yn cael ei lansio yn yr wythnosau nesaf.” 

Bydd Bil Tybaco a Fêps y DU sydd ar y gweill, sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd, yn adeiladu ar y gwaharddiad ar fêps untro ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyfyngiadau pellach ar farchnata a gwerthu'r holl gynhyrchion tybaco a fêps. Mae hyn yn cynnwys llu o fesurau i wneud fêps yn llawer llai deniadol i blant a phobl ifanc. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi paratoi arweiniad i rieni a gofalwyr sy'n pryderu am fepio eu plentyn, sy'n cynnig cyngor ymarferol ar sut i nodi arwyddion fepio a'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gael sgyrsiau â nhw am fepio. 

Os ydych yn pryderu am fepio eich plentyn, gallwch gysylltu â Helpa Fi i Stopio i gael cyngor a chymorth am ddim ar 0800 085 2219 neu yn helpafiistopio.cymru