Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu galwad y Prif Swyddog Meddygol am newid i ddull atal yn gyntaf o ymdrin ag iechyd

Cyhoeddwyd: 4 Rhagfyr 2025

Mae adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol, a gyhoeddwyd heddiw, wedi galw am newid i ddull atal yn gyntaf o ymdrin ag iechyd ac yn tynnu sylw at y ffaith bod mentrau atal llwyddiannus wedi dangos y potensial ar gyfer gwelliannau yn iechyd y boblogaeth. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod Cymru yn wynebu heriau iechyd sylweddol. Mae hyn yn cynnwys bwlch o 20 mlynedd mewn disgwyliad oes iach i fenywod rhwng yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig. Ac mae tair gwaith yn fwy o farwolaethau y gellir eu hosgoi yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. 

Mae'r bylchau hyn yn annheg a gellir eu hosgoi. 

Mae gwahaniaethau iechyd y gellir eu hatal yn her sylweddol i rai pobl a theuluoedd, yr economi, a GIG Cymru a, heb newid, bydd anghydraddoldebau iechyd yn parhau i gostio £322 miliwn y flwyddyn mewn costau ysbytai yn unig. 

Mae Cymru yn wynebu heriau iechyd sylweddol: 

Mae 1 o bob 4 o blant yn tyfu i fyny mewn tlodi 

Mae 7.2 miliwn o ddiwrnodau yn cael eu colli oherwydd absenoldeb salwch bob blwyddyn  

Mae 18% o gartrefi yn peri risgiau iechyd 

Disgwylir 50,000 yn fwy o achosion o ddiabetes ymhen 10 mlynedd  

Bron i £1 biliwn y flwyddyn – costau iechyd a chynhyrchiant llygredd aer 

Gall pob £1 a fuddsoddir mewn atal olygu enillion o £14 ar fuddsoddiad i gymdeithas a gall polisïau sy'n canolbwyntio ar atal ddarparu pobl iachach ac amgylchedd iachach, GIG mwy gwydn, ac economi gryfach a mwy cynaliadwy.   

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i ysgogi i helpu i greu Cymru iach a chynaliadwy. Rydym wedi datblygu pum maes blaenoriaeth allweddol i gyflawni hyn, sef – mae'r dechrau gorau mewn bywyd yn meithrin iechyd a llesiant gydol oes, mae llesiant ariannol yn arwain at iechyd gwell ac economi lewyrchus, mae bywydau iach yn dechrau yn ein lleoedd bob dydd, mae gofal sydd wedi'i deilwra i anghenion lleol yn meithrin iechyd a gwydnwch ac mae planed iach yn amddiffyn ein pobl yn awr ac yn y dyfodol.

Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Gymru iachach: Pum blaenoriaeth polisi - Iechyd Cyhoeddus Cymru