Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno ymgyrch Nursing Now Cymru Wales, a lansiwyd yn swyddogol mewn digwyddiad yng Nghaerdydd ar 29 Mawrth.
Roedd y digwyddiad lansio yn nodi dechrau cymal Cymru o ymgyrch Nursing Now, ymgyrch fyd-eang tair blynedd sy'n cael ei chynnal ar y cyd â Chyngor Rhyngwladol y Nyrsys a Sefydliad Iechyd y Byd.
Bydd Nursing Now yn rhedeg tan ddiwedd 2020 – sef 200 mlwyddiant ers genedigaeth Florence Nightingale a blwyddyn pan fydd nyrsys yn cael eu dathlu yn fyd-eang.
Mae hyn yn cyd-daro â Sefydliad Iechyd y Byd yn neilltuo 2020 fel Blwyddyn y Nyrs a'r Fydwraig, a disgwylir i hyn gael ei gymeradwyo yng Nghynulliad y Byd ym mis Mai eleni.
Dyma nodau'r ymgyrch:
Roedd Rhiannon Beaumont Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Perthynol, ymhlith y siaradwyr yn lansiad Nursing Now Cymru.
Meddai Rhiannon: “Rwy'n gyffrous iawn i weld Cymru yn ymuno'n swyddogol ag ymgyrch nyrsio fyd-eang Nursing Now. Mae nyrsys a bydwragedd wrth galon y rhan fwyaf o dimau iechyd, gan chwarae rhan hanfodol o ran gwella a thrawsnewid gwasanaethau iechyd, hybu iechyd ac atal a lleihau effaith clefydau, ynghyd â sicrhau bod y gofal a ddarperir yn dosturiol ac o safon uchel, sef yr hyn y dylai ein cleifion a'n dinasyddion ddisgwyl ei derbyn.
“Drwy gefnogi'r ymgyrch hon yng Nghymru, gallwn gydnabod y rôl werthfawr y mae nyrsys a bydwragedd yn ei chwarae a chodi proffil a statws nyrsio a bydwreigiaeth.”
Mae grŵp llywio dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, wedi'i sefydlu i ddatblygu ymgyrch Nursing Now Cymru Wales a sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ar y themâu allweddol a nodwyd ar gyfer Cymru.
Yn sail i'r themâu mae'r model effaith driphlyg a nodwyd yn A Report by the All-Party Parliamentary Group on Global Health, sef dogfen ragflaenol a arweiniodd at ymgyrch Nursing Now. Mae'r Model Effaith Driphlyg yn nodi Gwell Iechyd, Economïau Cryfach a mwy o Gydraddoldeb Rhwng y Rhywiau.
Dyma'r themâu Nursing Now Cymru Wales a nodwyd:
Mae'r themâu hyn yn cyd-fynd â'n cyd-destun polisi yng Nghymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach a Hyfforddi Gweithio Byw.
Ceir rhagor o wybodaeth am Nursing Now yn www.nursingnow.org