Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi cyflwyno asesiadau o'r effaith ar iechyd cyntaf o'u math yn y byd

Cyhoeddwyd: 9 Ionawr 2026

Yn dilyn cyflwyno rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd y Senedd fis diwethaf, sy'n gorchymyn i rai cyrff cyhoeddus yng Nghymru gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn mynd i chwarae rhan allweddol wrth yrru’r gwaith o roi’r rheoliadau ar waith.

Pasiwyd Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 gan y Senedd ar 19 Tachwedd. Maent yn golygu bod yn rhaid i bob corff cyhoeddus yng Nghymru roi ystyriaethau ynghylch iechyd, llesiant a thegwch wrth wraidd eu prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau strategol. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i gymryd y cam hwn.

O fis Ebrill 2027 ymlaen, bydd angen i gyrff cyhoeddus yng Nghymru mor amrywiol ag awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol, sefydliadau'r GIG, a sefydliadau diwylliannol a chwaraeon fel yr Amgueddfa Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol a Chwaraeon Cymru, wneud Asesiad o’r Effaith ar Iechyd pan fyddant yn gwneud penderfyniadau strategol.

Bydd Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth yrru’r gwaith o roi’r Rheoliadau ar waith, drwy ddarparu canllawiau, cyngor a chymorth i gyrff cyhoeddus wrth symud ymlaen.

Dywedodd yr Athro Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd a Chyfarwyddwr y Rhaglen Asesu’r Effaith ar Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae WHIASU wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r Rheoliadau, ac wedi cynnig tystiolaeth arbenigol, 

mewnwelediad ymarferol a chanllawiau drafft i lunio ymagwedd ymarferol a chymesur.

“Wrth i ni symud tuag at y dyddiad gweithredu ym mis Ebrill 2027, bydd WHIASU yn parhau â’r bartneriaeth hon drwy gydgynhyrchu canllawiau cenedlaethol, meithrin gallu ar draws y sector cyhoeddus, a chefnogi sefydliadau i ymgorffori asesiadau HIA yn effeithiol.

“Byddwn yn cyhoeddi’r set gyntaf o ddeunydd y mis nesaf. Bydd y deunydd yn cael ei gynllunio i gefnogi sefydliadau i roi’r Rheoliadau HIA ar waith.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

WHIASU
 

 

mewnwelediad ymarferol a chanllawiau drafft i lunio ymagwedd ymarferol a chymesur.

“Wrth i ni symud tuag at y dyddiad gweithredu ym mis Ebrill 2027, bydd WHIASU yn parhau â’r bartneriaeth hon drwy gydgynhyrchu canllawiau cenedlaethol, meithrin gallu ar draws y sector cyhoeddus, a chefnogi sefydliadau i ymgorffori asesiadau HIA yn effeithiol.

“Byddwn yn cyhoeddi’r set gyntaf o ddeunydd y mis nesaf. Bydd y deunydd yn cael ei gynllunio i gefnogi sefydliadau i roi’r Rheoliadau HIA ar waith.” Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma