Cyhoeddwyd: 28 Mawrth 2022
Mae arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa'r cyhoedd, er bod y gofyniad cyfreithiol i hunanynysu wrth brofi'n bositif am y Coronafeirws wedi newid, nid yw'r cyngor meddygol i wneud hynny wedi newid.
Gan adlewyrchu'r sefyllfa ledled y DU, mae achosion yng Nghymru ar lefel uchel ledled y wlad, ym mhob ardal a grŵp oedran.
Mae'n debygol bod y cynnydd mewn achosion yn gysylltiedig â mwy o gymysgu a'r llacio parhaus ar gyfyngiadau, ac mae hyn i'w ddisgwyl wrth i ni symud allan o'r pandemig, i COVID-19 fod yn feirws endemig.
Yn ogystal, mae'r is-deip BA2 o amrywiolyn Omicron yn fwy trosglwyddadwy ac yn symud yn gyflymach na'r gwreiddiol, sydd hefyd yn ysgogi'r cynnydd mewn achosion ac mae wedi'i weld yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr.
Meddai Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio: “er ein bod ar hyn o bryd yn gweld lefel uchel o achosion o'r Coronafeirws yng Nghymru, nid yw hyn yn arwain at gynnydd yn nifer y bobl y mae angen triniaeth mewn uned gofal dwys arnynt – yn bennaf oherwydd y nifer uchel o bobl sydd wedi cael eu brechu.
“Fodd bynnag, mae'r Coronafeirws yn dal i fod yn salwch annymunol, heintus iawn, ac er bod y gofyniad cyfreithiol i hunanynysu wrth brofi'n bositif wedi'i godi bellach, byddwn yn atgoffa pawb mai'r cyngor meddygol o hyd yw ynysu am o leiaf pum diwrnod llawn.
“Yn ogystal, bydd gwisgo masgiau mewn mannau dan do gorlawn, golchi dwylo'n rheolaidd, a sicrhau awyru digonol yn helpu i atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo ac amddiffyn mwy o bobl agored i niwed.
“Nid yw coronafeirws wedi diflannu, ac mae'n amlwg mai'r un peth gorau y gallwch ei wneud i amddiffyn eich hun a'r bobl o'ch cwmpas yw cael eich brechu.
“Os byddwch yn datblygu peswch, twymyn neu newid o ran blas neu arogl, y cyngor iechyd cyhoeddus o hyd yw y dylech hunanynysu ar unwaith er mwyn amddiffyn eraill, a chael prawf Coronafeirws.”
Mae profion coronafeirws yn newid yng Nghymru. Bydd mynediad i brofion PCR ar gyfer y cyhoedd yn dod i ben y mis hwn. Bydd pobl sydd â symptomau yn gallu archebu profion llif unffordd ar-lein neu drwy ffonio 119. Bydd safleoedd profi rhanbarthol a lleol a reolir gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn cau ar 31 Mawrth.
Mae staff sy'n gweithio mewn canolfannau ac unedau profi wedi chwarae rhan hanfodol wrth helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Maent wedi sicrhau bod profion ar gael 365 diwrnod o'r flwyddyn ac maent wedi ymateb i alw digynsail.