Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ailadrodd cyngor iechyd yn dilyn asesiad o ddata ansawdd aer

Cyhoeddwyd: 18 Mehefin 2024

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ailadrodd ei gyngor i drigolion yn yr ardal o amgylch safle tirlenwi Withyhedge, yn dilyn ein hasesiad risg iechyd o ddata ansawdd aer a gasglwyd rhwng 1 Mawrth a 3 Ebrill 2024.

Derbyniodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y data terfynol ar 23 Mai 2024 i ddechrau ein hasesiad risg.  Mae'r data yn awgrymu, ar adegau yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2024*, bod lefelau o hydrogen sylffid** yn yr aer o amgylch y safle wedi bod yn uwch na chanllaw annifyrrwch arogleuon Sefydliad Iechyd y Byd.

Felly mae cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau, sef y dylai trigolion gadw drysau a ffenestri ar gau pan fo'r arogleuon yn bresennol, a cheisio cyngor meddygol os ydynt yn teimlo'n sâl.

Pan fo pobl yn dod i gysylltiad ag arogleuon ar lefelau sy'n uwch na gwerth canllaw Sefydliad Iechyd y Byd, gallant brofi effeithiau fel pen tost/cur pen, cyfog, pendro, llygaid dyfrllyd, trwyn wedi'i rwystro, gwddf llidus, peswch neu wichian, problemau cysgu a straen.

Mae'r rhain yn adweithiau cyffredin i arogleuon drwg, ac fel arfer dylai'r effeithiau hyn basio pan fydd yr arogl wedi mynd.  Mae'r risg iechyd hirdymor (hyd oes) yn isel. 
Mae'r cyngor iechyd cyhoeddus i'r rhai sy'n dod i gysylltiad â'r arogleuon yn parhau heb ei newid.

  • Gall cau ffenestri a drysau pan fydd arogleuon drwg yn digwydd, neu pan fydd y gwynt yn chwythu o'r safle tirlenwi tuag at eich cartref, helpu i atal arogleuon rhag dod i mewn.
  • Cofiwch beidio â rhwystro ffenestri neu fentiau yn llwyr; mae hyn oherwydd eu bod yn darparu aer i awyru poptai neu wresogyddion a gallant helpu i reoli lleithder. 
  • Pan fydd arogl o'r tu allan wedi pasio, bydd agor ffenestri a drysau yn helpu i gael gwared ar unrhyw arogleuon sy'n weddill.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r farn bod yn rhaid i leihau achos neu ffynhonnell arogleuon oddi ar y safle o'r safle tirlenwi fod yn flaenoriaeth er mwyn lleihau cysylltiad ac unrhyw effeithiau iechyd posibl ar y gymuned leol.

Nodwn fod gwaith i gapio'r safle wedi'i gwblhau bellach. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu'r cynlluniau i osod monitro aer sefydlog o amgylch y safle wrth symud ymlaen er mwyn helpu i gofnodi data manylach.

Meddai Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn cydnabod y straen a'r gorbryder gwirioneddol y mae pobl leol yn eu dioddef o ganlyniad i'r arogleuon o amgylch safle tirlenwi Withyhedge.  Fel trigolion lleol, rydym yn awyddus iawn i weld ateb cyflym i'r mater hwn.

Bydd yr asesiad risg iechyd yn parhau i gael ei adolygu a'i ddiweddaru wrth i ragor o ddata monitro gael eu rhyddhau i ni.”

Meddai Cadeirydd y Grŵp Ansawdd Aer ar gyfer y tîm Rheoli Digwyddiad Amlasiantaethol, Gaynor Toft:

“Rydym yn nodi’r asesiad risg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn parhau i fireinio a datblygu’r rhaglen monitro ansawdd aer yng nghyffiniau’r safle tirlenwi. Mae lleoliadau monitro statig addas yn cael eu nodi ar gyfer lleoli offer.

“Rydym yn parhau i gydweithio fel y Grŵp Ansawdd Aer i sicrhau bod data cadarn yn cael ei goladu i lywio asesiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y dyfodol.”

Dywedodd Huw Manley o Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydym yn cydnabod yr adroddiad a byddwn yn parhau i ddefnyddio ein pwerau rheoleiddio i ysgogi gwelliannau ar y safle i fynd i’r afael ag achosion arogleuon sy’n effeithio ar y gymuned.”