Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adolygu data ansawdd ar gyfer safle tirlenwi Withyhedge

Cyhoeddwyd: 30 Mehefin 2024

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adolygu'r data monitro ansawdd aer a ddarparwyd i ni ac nid yw ein hasesiad iechyd cyhoeddus cychwynnol o'r data hynny yn rhoi unrhyw reswm i ni newid ein cyngor. Hynny yw, os bydd trigolion sy’n byw ger Withyhedge yn profi arogleuon o'r safle tirlenwi, gall cau ffenestri a drysau helpu i leihau arogleuon; pan fydd yr arogl wedi mynd heibio, gall agor ffenestri a drysau eto helpu i leihau unrhyw arogleuon y tu mewn i gartrefi. Cofiwch beidio â rhwystro ffenestri neu fentiau yn llwyr; mae hyn oherwydd eu bod yn darparu aer i awyru offer coginio a gwresogi ac i reoli lleithder.

Yn unol â'r dull amlasiantaethol y cytunwyd arno, mae ein hasesiad yn cael ei rannu â phartneriaid er mwyn helpu i lywio camau gweithredu a chyngor pellach wrth symud ymlaen. Byddwn yn parhau i adolygu'r data monitro sydd ar gael i ni er mwyn cynorthwyo'r asesiad parhaus o risg iechyd yn lleol. 

Yn y cyfamser, rydym yn cydnabod faint o effaith y mae'r arogleuon o'r safle tirlenwi yn parhau i'w chael ar gymunedau lleol ac yn ailadrodd ein galwad am gamau gweithredu brys i ddatrys y mater hwn cyn gynted â phosibl.