Cyhoeddwyd: 20 Ionawr 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi derbyn grant o £20,000 gan raglen Cymunedau Creadigol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau i gynnal prosiect newydd o'r enw Cynefin: Adolygiad Iechyd Creadigol i Gymru.
Bydd y prosiect yn archwilio'r ffordd y gall llunwyr polisi sicrhau bod pawb yng Nghymru'n mwynhau buddion amlwg creadigrwydd o ran iechyd a llesiant, a hynny yn awr ac yng nghenedlaethau'r dyfodol
Dywedodd Emily van de Venter, Ymgynghorydd Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod y prosiect yn adlewyrchu mudiad a sylfaen dystiolaeth 'iechyd creadigol' cenedlaethol a rhyngwladol sy'n tyfu. Mae'n ymwneud â meithrin ymdeimlad o berthyn ('cynefin'), sicrhau cyfleoedd cyfartal i gymunedau sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf i'r celfyddydau, yn ogystal â darparu ysbrydoliaeth i artistiaid a sefydliadau diwylliannol.
Dywedodd:
“Mae gan Gymru hanes cyfoethog a bywiog yn ddiwylliannol lle mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn ganolog i’n ffordd o fyw. Fodd bynnag, er bod ymchwil yn dangos mai nhw fyddai’n elwa fwyaf ar y celfyddydau a diwylliant, rydym yn gwybod bod pobl sy'n wynebu heriau iechyd ac anghydraddoldeb yn llai tebygol o ymgysylltu â’r meysydd hyn. Rydyn ni'n gwybod y gall darparu cyfleoedd diwylliannol i bobl sydd mewn mwy o berygl o gyflyrau iechyd atal afiechydon rhag datblygu a gwaethygu a bod y celfyddydau'n gallu cefnogi pobl trwy'r heriau iechyd anoddaf."
Mae'r ymchwil hon yn canolbwyntio ar sut y gall y celfyddydau a diwylliant, fel gwasanaeth cyhoeddus craidd, fod wrth wraidd iechyd y cyhoedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Bydd Emily Van de Venter yn gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a chydweithwyr yn Senedd Cymru i ddatblygu argymhellion polisi iechyd creadigol newydd ar gyfer Cymru.
Dywedodd Pippa Britton OBE PLY, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Rydym wrth ein bodd bod y prosiect hwn yn cael ei ariannu. Bydd yr allbynnau'n cefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflawni ein huchelgeisiau strategaeth hirdymor i wella llesiant meddyliol a chymdeithasol. Mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn gwella ansawdd ein bywyd, yn cryfhau ein gwead cymdeithasol ac yn ein galluogi i ddathlu ein diwylliant Cymreig. Edrychaf ymlaen at weld argymhellion Cynefin: Adolygiad Iechyd Creadigol i Gymru a chefnogi camau gweithredu er mwyn galluogi’r celfyddydau a chreadigrwydd i helpu pobl yng Nghymru i ffynnu."
Darllenwch ragor am y prosiect yma: