Cyhoeddwyd: 20 Tachwedd 2025
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu'r adroddiad o Modiwl 2 yr Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19. Mae parhau i ddysgu o'n profiad o'r pandemig yn hanfodol i wella sut rydym yn diogelu iechyd a lles ein poblogaeth yn y dyfodol.
Mae ein meddyliau gyda phawb a gollodd anwyliaid, ffrindiau a chydweithwyr yn ystod y pandemig Covid-19. Rydym yn cydnabod effaith ddwys y pandemig ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.
Byddwn yn ystyried yr adroddiad a'r argymhellion yn fanwl ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid ar draws Cymru a'r asiantaethau iechyd y cyhoedd eraill ar draws y DU, i sicrhau bod unrhyw newidiadau neu welliannau angenrheidiol yn cael eu hymgorffori yn y paratoadau ar gyfer unrhyw argyfwng yn y dyfodol a’r ymateb iddo.
https://covid19.public-inquiry.uk/cy/reports/