Cyhoeddwyd: 15 Awst 2022
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi agor ei ddrysau i'r ganolfan sgrinio gyntaf o'i math ar y stryd fawr yng Nghymru.
Mae'r ganolfan sgrinio bwrpasol yn rhan o ddull newydd sbon i helpu i hybu hygyrchedd a nifer y rhai sy'n cael eu sgrinio, ar ôl Covid-19 ac mae'n gartref i nifer o wasanaethau sgrinio i gyd o dan yr un to.
Wedi'i lleoli yn Aberpennar, mae'r ganolfan o ganlyniad i ddull sy'n canolbwyntio ar y person a gweithio mewn partneriaeth a gefnogir gan CBS Rhondda Cynon Taf, ac mae wedi'i chynllunio gyda hygyrchedd y cyhoedd fel blaenoriaeth, gan ei gwneud yn haws i bobl fynd i apwyntiadau sgrinio.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gobeithio y gall y model newydd hwn fod yn lasbrint i ddyfodol sgrinio iechyd yng Nghymru. Dyma'r tro cyntaf y mae'r ymddiriedolaeth wedi prydlesu ac adfywio adeilad yn benodol i gynnig nifer o raglenni sgrinio o dan yr un to, yng nghalon y gymuned. Mae'n dod â gwasanaethau ynghyd ar gyfer tair rhaglen genedlaethol: sgrinio llygaid diabetig, ymlediad aortig abdomenol (AAA) a sgrinio clyw babanod. Bydd ychydig o dan 8,000 o bobl yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio yn y ganolfan yn ei blwyddyn gyntaf.
Drwy fynd â sgrinio i'r stryd fawr, y nod yw ei gwneud yn haws i bobl fynd i apwyntiadau. Gyda chysylltiadau trafnidiaeth hawdd gerllaw, mae'r ganolfan hefyd yn cynnig apwyntiadau mwy hyblyg, gan alluogi pobl i ddod ar ystod ehangach o amseroedd y tu allan i'r 9am-5pm arferol, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd yn darparu mwy o gapasiti sgrinio i ardaloedd awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Chaerffili.
Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS yn mynd i agoriad swyddogol y ganolfan yn Nhŷ Rhos, Stryd Rhydychen, Aberpennar heddiw am 10.30am, ynghyd ag uwch swyddogion gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE,
Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae'r ganolfan sgrinio newydd yn cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau gwell mynediad i'r cyhoedd i weithwyr iechyd proffesiynol.
Meddai'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:
“Mae'n bleser gennyf agor y ganolfan newydd yn swyddogol. Mae sgrinio'n chwarae rhan hanfodol ac rwy'n croesawu unrhyw beth sy'n ei gwneud yn fwy cyfleus i bobl fynd i apwyntiadau. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r ganolfan yn mynd rhagddi ac a ellid efallai ailadrodd glasbrint lleoliad ar y stryd fawr mewn rhannau eraill o Gymru.”
Meddai Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Y ganolfan sgrinio bwrpasol hon yw'r gwasanaeth amlsgrinio cyntaf i'w leoli yng nghanol y gymuned y mae'n ei gwasanaethu ac mae ganddi botensial enfawr i fod yn fodel ar gyfer dyfodol sgrinio iechyd.
“Bydd yn cynnig sgrinio llygaid diabetig dyddiol a bydd cyfranogwyr hefyd yn gallu cael mynediad at slotiau apwyntiadau sy'n cael eu canslo ar fyr rybudd, gan gynyddu capasiti'r gwasanaeth yn fawr.
“Fel gyda'n holl raglenni sgrinio, mae'n bwysig iawn bod pobl yn manteisio ar eu gwahoddiadau pan fyddant yn eu cael. Drwy wneud hynny, mae'n galluogi i'r rhai y nodir eu bod yn wynebu risg uwch o glefyd neu salwch gael cynnig rhagor o wybodaeth, profion a thriniaeth briodol”.
Meddai Jan Williams, Cadeirydd y Bwrdd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Gobeithio y bydd symud i'r Stryd Fawr yn gwella mynediad ar gyfer nifer o bobl a allai fod wedi ei chael yn anodd cyrraedd lleoliadau eraill yn y gorffennol, ac edrychwn ymlaen at glywed ganddynt am hynny.”
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:
“Rwy'n falch o weld y model amlsgrinio arloesol hwn yn dwyn ffrwyth yn Aberpennar ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i drigolion wrth roi mynediad hawdd at nifer o wasanaethau sgrinio allweddol yng nghanol y dref.
“Drwy gamau gweithredu'r Cyngor wrth gaffael hen adeilad meddygfa Tŷ Rhos, rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda'n tenant hirdymor, Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gynnal ailffitio llawn er mwyn galluogi i'r cyfleuster amlsgrinio rhanbarthol gwych hwn gael ei ddatblygu yn Aberpennar, ac rwy'n siŵr y bydd y lleoliad hygyrch ac oriau apwyntiad hyblyg o fudd mawr i bobl ar draws Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Chaerffili wrth gael mynediad at wasanaethau sgrinio hanfodol.”
Mae'r adeilad wedi'i adnewyddu i ddyluniad pwrpasol gan ganolbwyntio ar sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Ymhlith yr enghreifftiau o sut y cyflawnwyd hyn mae ailddefnyddio teils carped a dodrefn o swyddfeydd blaenorol Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â darparu lleoedd gwaith ychwanegol, gan roi'r opsiwn i staff weithio'n fwy lleol, yn hytrach na theithio i swyddfeydd ymhellach i ffwrdd.