Gwahoddiad i ddigwyddiad gweithdy rhanddeiliaid ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad (AoLE) Iechyd a Llesiant y Cwricwlwm drafft i Gymru 2022.
Yn dilyn digwyddiad gweithdy llwyddiannus a gynhaliwyd y llynedd, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal gweithdy ymgysylltu rhanddeiliaid yng Ngwesty’r Grand yn Abertawe, ar 5 Mehefin 2019, er mwyn trafod a chanfod mwy am y Maes Dysgu a Phrofiad (AoLE) Iechyd a Llesiant a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sydd yn ffurfio rhan o’r Cwricwlwm drafft i Gymru 2022.
Mae’r cwricwlwm newydd, fydd yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2022 ymlaen, eisiau gwneud iechyd a llesiant yn ganolog i gymuned yr ysgol trwy ei wneud yn un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad (AoLE) craidd.
Mae’r cwricwlwm newydd wedi cael ei ddatblygu gan athrawon ar gyfer athrawon a’i lunio gan arbenigwyr o Gymru ac ar draws y byd. Dyluniwyd y Cwricwlwm drafft i Gymru 2022 ar gyfer pob dysgwr 3-16 mis mewn lleoliadau ac ysgolion nas cynhelir.
Mae’r gweithdy yn gwahodd ystod o randdeiliaid ar draws sectorau yn cynnwys y sector iechyd, llywodraeth leol, y trydydd sector ac academia i glywed manylion y broses sydd wedi arwain at gyhoeddi’r cwricwlwm drafft. Bydd cyfle i drafod manylion yr AoLE Iechyd a Llesiant, rhoi adborth ar y cynnwys drafft a gwneud awgrymiadau ar gyfer ei fireinio.
Bydd cyfnod adolygu Cwricwlwm drafft i Gymru 2022 yn dod i ben ar 19 Gorffennaf 2019.
Mae’n bwysig i’r mynychwyr ddarllen y dogfennau a grëwyd gan grŵp AoLE Iechyd a Llesiant cyn y digwyddiad.
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiad, ewch i’n tudalen Eventbrite neu cysylltwch â Cerys Preece.