Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pererinion Hajj i fod yn ymwybodol o MERS-CoV, sydd weithiau'n cael ei alw'n ‘ffliw camelod’, a chymryd camau i ddiogelu rhagddo.
Er nad yw peswch a phrinder anadl achlysurol yn anghyffredin i deithwyr dros yr haf, dylai pererinion Hajj sy'n teithio i Mecca ac yn ôl eleni gael eu cynghori y gallai'r symptomau hyn fod yn arwydd o goronafeirws Syndrom Resbiradol y Dwyrain Canol (MERS-CoV).
Disgwylir i'r bererindod flynyddol i Mecca yn Nheyrnas Saudi Arabia (KSA), a elwir yn Hajj, ddigwydd rhwng 19 a 24 Awst eleni, a bydd yn cynnwys nifer o deithwyr o Gymru.
Mae MERS-CoV yn glefyd anadlol firaol, a elwir weithiau yn ffliw camelod yn sgil tystiolaeth gynyddol y gall camelod fod yn darddiad yr haint.
Ymhlith y symptomau mae:
• Twymyn
• Peswch
• Prinder anadl neu anhawster anadlu
Mae Saudi Arabia wedi rhoi gwybod am dros 150 o achosion ar draws y wlad ers mis Ionawr 2019, yn bennaf ymhlith trigolion KSA. Gall MERS-CoV hefyd ledaenu o berson i berson os bydd cyswllt agos rhyngddynt.
Mae'n bwysig ymarfer hylendid personol, dwylo ac anadlol da gan gynnwys gorchuddio eich ceg wrth beswch neu disian, defnyddio hances bapur neu ran uchaf y llawes, a golchi eich dwylo â sebon a dŵr yn rheolaidd.
Mae'r risg o haint i drigolion Cymru sy'n teithio i'r Dwyrain Canol yn parhau'n isel iawn ac nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru, Canolfan a Rhwydwaith Cenedlaethol Iechyd Teithwyr a Sefydliad Iechyd y Byd ar hyn o bryd yn cynghori unrhyw gyfyngiadau teithio i KSA mewn perthynas â MERS-CoV.
Os bydd unigolion yn profi symptomau MERS-CoV o fewn 14 diwrnod i adael y Dwyrain Canol, maent yn cael eu hannog i ffonio eu meddyg teulu ar unwaith, neu Galw Iechyd Cymru a sôn am eu hanes teithio.
Meddai Dr Giri Shankar, Ymgynghorydd Arweiniol Proffesiynol ar gyfer Diogelu Iechyd: “Cynghorwn yn gryf fod teithwyr i'r Dwyrain Canol yn ymarfer hylendid dwylo da, yn osgoi cyswllt â chamelod a chynnyrch camelod er mwyn sicrhau eu bod yn cael Hajj diogel ac iach.”
Ceir gwybodaeth ychwanegol drwy'r ddolen ganlynol: