Neidio i'r prif gynnwy

Haint iGAS yn parhau'n brin, yn ôl arbenigwyr iechyd cyhoeddus

Cyhoeddwyd: 5 Rhagfyr 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa rhieni bod achosion o haint streptococol grŵp A ymledol (iGAS) yn parhau'n brin yng Nghymru, a bod gan blant risg isel iawn o ddal y clefyd.

Daw'r nodyn atgoffa ar ôl i Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau nifer o farwolaethau o iGAS, sef cymhlethdod prin o haint streptococol grŵp A.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae haint streptococol A yn achosi'r dwymyn goch, salwch ysgafn fel arfer.

Bu cynnydd yn y dwymyn goch eleni.  Yn y DU, cafwyd 1,512 o hysbysiadau o'r dwymyn goch rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2022, o gymharu â 948 yn ystod yr un cyfnod yn 2019.

Meddai Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Er ein bod yn deall bod rhieni yn debygol o boeni am adroddiadau y maent yn eu gweld yn gysylltiedig ag iGAS, mae'r cyflwr yn parhau i fod yn brin.

“Mae symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw yn gyffredin iawn ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig mewn plant.  Bydd y rhan fwyaf yn cael feirws tymhorol cyffredin y gellir ei drin drwy sicrhau bod y plentyn yn yfed digon, a'i drin â pharasetamol.

“Efallai y bydd rhai plant sydd â symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw- dolur gwddf, cur pen, twymyn - yn profi rhai o symptomau cynnar y dwymyn goch, sydd hefyd yn mynd ar led ar yr adeg hon o'r flwyddyn.  Bydd y plant hyn yn mynd ymlaen i ddatblygu symptomau penodol i'r dwymyn goch, gan gynnwys brech binc-goch fân sy'n teimlo fel papur tywod wrth ei chyffwrdd, a dylai rhieni gysylltu â'u meddyg teulu.

“Er bod y dwymyn goch yn peri mwy o bryder, mae'n dal i fod yn salwch eithaf ysgafn a bydd y rhan fwyaf o blant yn gwella ohono heb gymhlethdodau, yn enwedig os yw'r cyflwr yn cael ei drin yn iawn gyda gwrthfiotigau.

“Mewn achosion prin iawn, gall haint streptococol grŵp A achosi iGAS, sef cymhlethdod prin sy'n effeithio ar lai nag 20 o blant yng Nghymru bob blwyddyn.  Er bod iGAS yn gyflwr sy'n peri pryder, bydd y mwyafrif o'r plant hyn yn gwella gyda thriniaeth briodol.

“Y peth gorau y gall rhieni ei wneud yw darparu'r gofal y byddent fel arfer yn ei ddarparu i blentyn â symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw, ond i ymgyfarwyddo â symptomau'r dwymyn goch ac iGAS fel rhagofal.

“Mae hefyd yn bwysig bod plant o ddwy oed i fyny yn cael eu hamddiffyn rhag ffliw tymhorol, a chael y brechlyn.”

Symptomau'r dwymyn goch

Mae symptomau'r dwymyn goch yn cynnwys dolur gwddf, pen tost/cur pen, twymyn, cyfog a chwydu.  Dilynir hyn gan frech fân lliw coch, sydd fel arfer yn ymddangos gyntaf ar y frest a'r stumog, gan ledaenu'n gyflym i rannau eraill o'r corff. Efallai na fydd plant hŷn yn cael y frech.

Ar groen pigmentog tywyll, gall y frech lliw coch fod yn fwy anodd i'w gweld, ond dylai deimlo fel 'papur tywod'.  Gall yr wyneb gochi ond yn welw o amgylch y geg.

Cynghorir y dylai rhieni sy'n amau bod gan eu plentyn symptomau'r dwymyn goch wneud y canlynol:

  • Cysylltu â'u meddyg teulu, ymweld â 111.wales.nhs.uk, neu ffinio GIG 111 Cymru  
  • Sicrhau bod eu plentyn yn cymryd y cwrs llawn o unrhyw wrthfiotigau a ragnodir gan y meddyg
  • Cadw eu plentyn gartref, i ffwrdd o'r feithrinfa, ysgol neu'r gwaith a dilyn unrhyw ganllawiau a roddir gan eu meddyg teulu ynghylch pa mor hir y dylent barhau i fod yn absennol o'r lleoliadau hyn.
  • Dewch o hyd i’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ar heintiau streptococol A yn 111.wales.nhs.uk

Symptomau iGAS

  • Twymyn (tymheredd uchel dros 38°C)
  • Poenau difrifol yn y cyhyrau
  • Tynerwch cyfyngedig yn y cyhyrau
  • Cochni ar safle clwyf.

Mae rhieni yn cael eu cynghori i gysylltu â'u meddyg teulu neu gael cyngor meddygol ar unwaith os ydynt yn credu bod gan eu plentyn unrhyw un o arwyddion a symptomau clefyd iGAS.