Cyhoeddwyd: 30 Mai 2023
Fel sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio tuag at Gymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach, iachach a lle mae gan bawb yng Nghymru fynediad teg a chyfartal at y pethau sy'n arwain at iechyd a llesiant da.
Gyda'n partneriaid, mae'r sefydliad yn ceisio cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Heddiw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Strategaeth Hirdymor newydd, sy'n nodi'r camau gweithredu y bydd yn eu cymryd i gyflawni Cymru lle mae pobl yn byw bywydau hirach, iachach a lle mae gan bawb fynediad teg a chyfartal at y pethau sy'n arwain at iechyd a llesiant da.
Mae’r strategaeth yn nodi chwe blaenoriaeth strategol y sefydliad ar gyfer y cyfnod 2023 i 2035, ac mae'n mapio'n fanwl sut y bydd yn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau hynny, sef:
Mae'r Strategaeth Hirdymor wedi'i datblygu er mwyn wynebu heriau newydd a heriau sy'n bodoli eisoes i iechyd y boblogaeth, ac i sicrhau y gall blaenoriaethau a ffyrdd o weithio'r sefydliad fynd i'r afael â'r heriau newydd hyn yn fwyaf effeithiol.
Meddai Jan Williams OBE, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae lansio'r strategaeth newydd hon yn foment gyffrous iawn yn natblygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru fel sefydliad.
“Rydym yn gwybod ein bod i gyd yng Nghymru heddiw yn wynebu heriau sylweddol – boed hynny ym maes iechyd cyhoeddus neu yn y gymdeithas ehangach.
“Mae'r strategaeth hon yn rhoi llwybr clir i ni i 2035 yn ein gweledigaeth gyffredinol o helpu pobl Cymru i fyw bywydau hirach, iachach a lle mae gan bawb yng Nghymru fynediad teg a chyfartal at y pethau sy'n arwain at iechyd a llesiant da.
Ychwanegodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru “Mae'r strategaeth wedi'i datblygu ochr yn ochr â'n staff, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am eu hymdrechion. Rwy'n gyffrous i weithio ar y cyd â nhw, yn ogystal â'n rhanddeiliaid allweddol a'r cyhoedd i lwyddo wrth gyflawni ein gweledigaeth.”
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Strategaeth Hirdymor, yn ogystal â dolenni i lawrlwytho'r dogfennau, yma.