Cyhoeddwyd: 18 Tachwedd 2022
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar bobl yng Nghymru i weithredu nawr er mwyn helpu i fynd i'r afael â’r gorddefnydd o feddyginiaeth gwrthfiotig. Y llynedd, cafodd bron 1.9 miliwn o wrthfiotigau eu rhagnodi yng Nghymru.
Y perygl o ddefnyddio gormod o wrthfiotigau yw y gall arwain at ymwrthedd gwrthficrobaidd, pan nad yw bacteria bellach yn cael eu lladd gan y gwrthfiotig. I reoli'r pandemig tawel hwn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar ymarferwyr meddygol a'r cyhoedd ond i ddefnyddio gwrthfiotigau pan fydd gwir eu hangen arnom.
I gyd-fynd ag Wythnos Ymwybyddiaeth Gwrthficrobaidd y Byd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal ymgyrch sy'n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o ymwrthedd gwrthficrobaidd ac i annog arfer gorau ymhlith gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a'r cyhoedd yng Nghymru. Roedd cynnydd gwych yn cael ei wneud yn y maes hwn cyn Covid. A ninnau bellach yn dod allan o'r pandemig Covid-19, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r cyhoedd i ailganolbwyntio ar y mater hwn.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog gweithwyr meddygol proffesiynol i ragnodi gwrthfiotigau ond pan fo gwir eu hangen. Rydym yn atgoffa pawb i ddefnyddio gwrthfiotigau yn union fel y cyfarwyddir gan feddyg, nyrs neu fferyllydd. Ni ddylai unrhyw un gadw gwrthfiotigau ar gyfer nes ymlaen na'u rhannu â theulu, ffrindiau neu anifeiliaid anwes. Os oes gennych wrthfiotigau heb eu defnyddio dylech eu dychwelyd i'ch fferyllfa leol. Mae eu taflu i'r bin neu eu fflysio i lawr y toiled yn arwain at lygru afonydd, gan fygwth iechyd pobl ac anifeiliaid.
Meddai Dr Eleri Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol a Phennaeth Rhaglen HARP, Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Mae gwrthfiotigau yn adnodd gwerthfawr. Mae angen i ni eu defnyddio'n gyfrifol. Os na wnawn, y perygl yw y bydd ein meddyginiaethau gwrthfiotig yn mynd yn aneffeithiol, sy'n golygu na fyddwn yn gallu trin clefydau cyffredin.”
Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach.
I gael rhagor o wybodaeth am ymwrthedd gwrthficrobaidd ewch i: