Cyhoeddwyd: 21 Ionawr 2026
Mae gormod o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew cyn eu trydydd pen-blwydd. Fodd bynnag, gallai cyfuniad o ymyriadau cynnar ac amgylcheddau cefnogol helpu i newid hynny.
Roedd dadansoddiad newydd o ddata rheolaidd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn edrych ar y dylanwadau ar ennill pwysau’n gyflym yn ystod 1000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn a BMI y 4,044 o blant a anwyd yng Nghymru yn 2022. O'r sampl honno, roedd bron i 15 y cant o'r plant dros eu pwysau ac roedd bron i 12 y cant yn ordew erbyn iddynt fod yn 27 mis oed.
Dengys ymchwil fod ennill pwysau’n gyflym yn ystod babandod yn cael ei ddylanwadu gan nifer o ffactorau, yn cynnwys arferion bwydo, cyflwyno bwydydd solet, patrymau cysgu, a'r amgylchedd ehangach. Yn yr astudiaeth hon, roedd y ffordd yr oedd babanod yn cael eu bwydo yn chwe mis oed yn un ffactor a oedd yn dylanwadu’n sylweddol ar a oeddynt wedi ennill pwysau’n gyflym, yn ogystal â phwysau geni isel a babanod a anwyd cyn amser. Roedd gan y babanod hynny a oedd yn cael eu bwydo â llaeth fformiwla yn unig bron ddwywaith y siawns o ennill pwysau'n gyflym o'u cymharu â'r rhai a oedd yn cael eu bwydo ar y fron yn unig.
Dywedodd Rachel Bath, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ac arweinydd y Blynyddoedd Cynnar yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r sylfaen ar gyfer byw bywyd mewn iechyd da yn cael ei hadeiladu yn ein blynyddoedd cynnar, a bydd camau gweithredu yn ystod blynyddoedd cyntaf bywyd i atal gordewdra yn cael yr effaith fwyaf ar weddill bywyd plentyn.
“Mae ein gwaith dadansoddi data yn cefnogi’r sail dystiolaeth bresennol bod bwydo ar y fron yn lleihau’r risg y bydd baban dros ei bwysau. Mae'r dystiolaeth hefyd yn cefnogi'r angen i ni ystyried babanod a phlant ym mhob un o'n penderfyniadau polisi fel y gallwn greu'r amodau i alluogi'r dechrau gorau mewn bywyd.
“Rydym yn cydnabod bod sut mae rhieni’n bwydo eu babanod yn ddewis personol, ac mae llawer o deuluoedd yn wynebu rhwystrau go iawn i fwydo ar y fron. Rydym yn croesawu'r ffocws ar blant yng nghynllun cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach 2025-27 ac rydym yn edrych ymlaen at weld Cynllun Gweithredu Bwydo Babanod Llywodraeth Cymru sy'n anelu at wneud bwydo ar y fron yn opsiwn sy’n cael ei dderbyn a’i gefnogi’n ddiwylliannol i bob mam.”
Mae tri o bob pump o oedolion ac un o bob pedwar o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew, ac mae'r duedd gyffredinol yn gwaethygu. Mae gorbwysau a gordewdra yn uwch mewn ardaloedd o amddifadedd mwy ac mae'n ffactor allweddol mewn clefydau fel diabetes math 2, clefyd y galon a llawer o ganserau.
Yn ogystal â’r effaith y mae gorbwysau a gordewdra yn ei chael ar unigolion, mae’r gost i gymdeithas yn sylweddol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod costau afiechyd sy’n gysylltiedig â gorbwysau a gordewdra i GIG Cymru tua £500 miliwn bob blwyddyn.
Ychwanegodd Dr Ilona Johnson, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd a Chyd-gyfarwyddwr Gwella Iechyd Dros Dro yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae gennym dipyn o waith i'w wneud i fynd i'r afael â her gordewdra. Er bod angen y gwasanaethau a'r triniaethau cywir arnom i gefnogi pobl sydd dros eu pwysau neu’n ordew, mae angen i ni weithredu'n llawer cynharach er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn a pharhaol.
“Mae pobl yn teimlo bod yr amgylchedd yn gweithio yn eu herbyn oherwydd eu bod wedi’u hamgylchynu gan fwyd egni uchel sy’n isel mewn maetholion. Mae angen i fywydau iachach a dewisiadau iachach fod yn haws. Mae hyn yn golygu y dylai'r lleoedd lle rydym yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddynt fod yn iachach ac yn gefnogol yn ddiofyn.
“Dyna pam mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi mesurau fel cyflwyno rheoliadau ynghylch hyrwyddo a lleoli bwyd mewn amgylcheddau manwerthu, gan mai dyma beth mae pobl wedi dweud wrthym fydd yn eu helpu nhw.
“Mae mynd i’r afael â her gordewdra yn dasg gymhleth. Er mwyn i ni wneud gwahaniaeth go iawn, mae angen ymrwymiad hirdymor arnom i ddull uchelgeisiol sy'n mynd y tu hwnt i wasanaethau a thriniaethau iechyd, i drawsnewid ein hamgylcheddau fel ein bod yn atal gordewdra a gorbwysau cyn gynted â phosibl.”