Cyhoeddwyd: 23 Hydref 2025
Mae'r data gwyliadwriaeth diweddaraf, gan gynnwys data gan feddygon teulu, profion mewn ysbytai ac achosion wedi'u cadarnhau mewn gwahanol leoliadau, yn dangos bod y ffliw ar gynnydd a bod tymor y ffliw wedi dechrau'n gynharach nag arfer.
Mae lefelau'r ffliw yn parhau'n isel ar hyn o bryd, ond disgwylir i nifer yr achosion godi dros yr wythnosau nesaf. Fel arfer, mae tymor y ffliw yn dechrau tua diwedd mis Tachwedd neu ddechrau mis Rhagfyr, felly mae'r gweithgarwch presennol hwn tua mis yn gynharach nag yn y tymhorau diweddar.
Gall y ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i oedolion hŷn a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor fel asthma, diabetes, neu glefyd cronig y galon. Gall hyn eu gwneud yn fwy agored i gymhlethdodau, oherwydd feirysau’r ffliw.
Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r ffliw bellach yn cylchredeg ledled Cymru ac rydym yn gweld arwyddion bod tymor eleni wedi dechrau’n gynharach nag arfer.
“Er bod tymor y ffliw yn dechrau’n gynharach nag yr ydym wedi’i weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’n dal i fod amser i gael eich brechlyn ffliw cyn i’r cylchrediad fod ar ei uchaf. Mae'r brechlyn ffliw yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn eich hun rhag y tri math o ffliw sy'n cylchredeg bob blwyddyn.
“Rydym yn gweld sawl math o feirws y ffliw yn cylchredeg bob gaeaf, a all effeithio ar bobl ar draws gwahanol grwpiau oedran. Ar hyn o bryd, ffliw A(H3) yw'r math o ffliw rydyn ni'n ei ganfod yn y niferoedd mwyaf. Yn hanesyddol, mae tymhorau lle mae feirysau ffliw A(H3) wedi dominyddu, wedi gweld lefelau uwch o salwch ac achosion mewn cartrefi gofal preswyl ac ymhlith oedolion hŷn.
“Rydym hefyd yn canfod nifer llai o’r ffliw A(H1), a all effeithio’n fwy difrifol ar grwpiau oedran iau yn aml, yn enwedig plant, oedolion â risgiau clinigol a menywod beichiog.
“Bydd llawer o bobl hefyd yn gymwys i gael brechiadau eraill sy’n helpu i atal heintiau sy’n fwy cyffredin yn ystod y gaeaf, yn cynnwys COVID-19 a Feirws Syncytiol Anadlol (RSV). Mae'r brechlynnau hyn, gyda’i gilydd, yn rhoi’r amddiffyniad gorau yn erbyn y feirysau sy’n achosi i lawer o bobl gael eu derbyn i’r ysbyty ac sy’n rhoi pwysau ar adnoddau'r GIG y gaeaf hwn.”
Cynigir y brechlyn ffliw bob blwyddyn i helpu i amddiffyn y rhai sydd fwyaf mewn perygl o salwch difrifol. Mae'n arbennig o bwysig i oedolion hŷn, preswylwyr a staff cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, plant ifanc, y rhai â chyflyrau iechyd penodol gan gynnwys asthma a diabetes a menywod beichiog, oherwydd bod y ffliw yn ystod beichiogrwydd yn gallu cael effeithiau difrifol ar iechyd menywod beichiog a babanod.
Mae'r rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim gan y GIG yn cynnwys pobl 65 oed a hŷn, pobl rhwng chwe mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor, menywod beichiog, gofalwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, a phobl sy'n byw mewn cartrefi gofal. Mae plant dwy a thair oed (ar 31 Awst 2025) hefyd yn gymwys, ac mae disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd (dosbarth derbyn i flwyddyn 11) yn cael cynnig y brechlyn ffliw drwy ysgolion.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael eich brechlynnau, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.
https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/brechiadaur-gaeaf/