Neidio i'r prif gynnwy

Gostyngiad mewn achosion newydd o HIV gyda phrofi, atal a thrin HIV ar eu huchaf erioed yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 5 Tachwedd 2025

Mae data a gyhoeddwyd heddiw yn dangos gostyngiad o 20 y cant mewn achosion newydd o HIV yng Nghymru y llynedd. Ar yr un pryd, mae mwy o bobl nag erioed o'r blaen wedi cael eu profi am HIV yng Nghymru, ac mae presgripsiynau ar gyfer meddyginiaeth ataliol ar eu lefelau uchaf ers iddi gael ei gyflwyno.

Dengys y data diweddaraf o adroddiad blynyddol HIV Iechyd Cyhoeddus Cymru fod diagnosisau HIV newydd wedi gostwng i 73 o achosion yn 2024 o gymharu â 91 o achosion y flwyddyn flaenorol.

Ar yr un pryd bu cynnydd o 8.3 y cant yn nifer y profion a wnaed, wrth i fwy na 133,000 o bobl gael eu profi am HIV, gyda bron i un o bob pump o’r rhain yn defnyddio profion am ddim yn y cartref – naill ai gan ddefnyddio’r gwasanaeth Profi a Phostio ar-lein neu drwy godi pecyn prawf mewn lleoliad cymunedol.

Cododd nifer y bobl sy'n cymryd meddyginiaeth PrEP (Proffylacsis Cyn-gysylltiad), a all atal trosglwyddiadau HIV pan gaiff ei chymryd yn gywir, fwy na 4 y cant, a dyma'r nifer uchaf ers cyflwyno PrEP yng Nghymru yn 2017. Mae ehangu mynediad at y feddyginiaeth yn cyd-daro â'r duedd ar i lawr mewn achosion newydd o HIV yn y DU, yn enwedig ymhlith dynion hoyw a deurywiol sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM). Er y gall bron pawb ddefnyddio PrEP, mae'r mwyafrif helaeth (98 y cant) o bobl sy'n cymryd PrEP yn ddynion, ac mae mwy na thraean yn y grŵp oedran 25-34 oed.

Ers 2021 yng Nghymru, y llwybr amlygiad a adroddwyd amlaf yw rhyw rhwng dynion a menywod (45 y cant), ac yna rhyw rhwng dynion (37 y cant). Mae cyfran yr achosion a nodwyd gan ddilyn rhyw rhwng dynion a menywod wedi bod ar gynnydd ers 2020, fodd bynnag mae cyfran y diagnosisau ymhlith dynion yn dal yn sylweddol uwch na menywod, sef 78 y cant.

Dywedodd yr Athro Daniel Thomas, Epidemiolegydd Ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos bod Cymru’n gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau trosglwyddiadau HIV newydd, tra bod atal a thrin ar eu huchaf erioed, ymhell o fewn targedau’r Cenhedloedd Unedig. Dyma enghraifft wych o sut mae blaenoriaethu atal wir yn gweithio, gan ganiatáu i bobl fyw bywydau iachach.

“Mae’r data a ryddhawyd heddiw yn dangos y gall profion rheolaidd – bob blwyddyn fel arfer – a’r defnydd cywir o feddyginiaethau PrEP a gwrth-retrofeirysol, wneud gwahaniaeth dramatig wrth leihau trosglwyddiad HIV a sicrhau y gall pawb fyw bywyd normal gyda diagnosis positif.

“Wrth i ni edrych ymlaen at Wythnos Profi HIV Cymru sy’n dechrau ar 17 Tachwedd, mae profi bellach yn haws nag erioed. Mae'r gwasanaeth Profi a Phostio poblogaidd ar gael ar-lein yn www.ircymru.online. Mae'r gwasanaeth profi cyfrinachol am ddim hwn bellach ar gael mewn llawer o leoliadau cymunedol, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol ond hefyd mewn rhai llyfrgelloedd, undebau myfyrwyr a gwasanaethau cymorth – mae'r rhestr lawn ar gael yn Pecynnau cymunedol - Iechyd Rhywiol Cymru.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

“Mae Cymru’n gwneud cynnydd calonogol tuag at ein huchelgais o ddim trosglwyddiadau HIV newydd erbyn 2030 drwy ein Cynllun Gweithredu HIV uchelgeisiol, sy’n cynnwys gwell fynediad at brofion, hyrwyddo dulliau atal a mynd i’r afael â stigma.

“Rwy’n falch o weld y data diweddaraf hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n dangos cynnydd yn nifer y bobl sy’n profi am HIV a chynnydd yn y defnydd o PrEP. “Mae’r gostyngiad sylweddol mewn diagnosisau newydd o HIV yn rhywbeth y gallwn fod yn falch ohono.”