Neidio i'r prif gynnwy

Golchi dwylo: Amddiffyniad Allweddol Yn Erbyn Firysau'r Gaeaf

Cyhoeddwyd: 13 Chwefror 2025

Efallai bod y dyddiau oer a thywyll yn mynd yn raddol yn gynhesach ac yn oleuach, ond gall firysau'r gaeaf fel annwyd, ffliw a COVID-19 ddifetha ein cynlluniau o hyd. 

Mae achosion o'r ffliw yn parhau’n uchel ac mae potensial o hyd i hyn gynyddu ymhellach.

Gall rhywbeth mor syml yn eich trefn ddyddiol â golchi dwylo’n dda ac yn rheolaidd wneud gwahaniaeth. Atal germau rhag trosglwyddo oddi wrthych chi i'ch anwyliaid yw un o'r ffyrdd hawsaf o atal afiechydon rhag lledaenu y gaeaf yma.

Mewn arolwg diweddar, gwnaeth 46 y cant o bobl Cymru gyfaddef iddynt olchi eu dwylo am lai nag 20 eiliad - gan eu rhoi mewn mwy o berygl o ddal haint. Dywedodd mwy o bobl (52%) iddynt olchi eu dwylo am 20 eiliad neu fwy (o gymharu â 40% ym mis Ebrill 2024). Mae hyn yn arbennig o bwysig yr adeg hon o'r flwyddyn pan ddywed y rhan fwyaf o oedolion (75%) eu bod yn poeni am ddal firws gaeafol; a COVID-19 a'r ffliw sy’n achosi’r pryder mwyaf.

Pan fydd rhywun yn pesychu neu'n tisian, gall germau fynd ar wrthrychau a all, os cânt eu cyffwrdd, fynd ar ein dwylo. Os na chânt eu golchi i ffwrdd, gall germau fynd i mewn i'n corff trwy'r llygaid, y trwyn a'r geg, gan ein gwneud ni’n sâl. Maen nhw’n gallu cael eu trosglwyddo i bobl eraill hefyd.

Y canllawiau gofal iechyd a argymhellir ar gyfer golchi dwylo’n dda yw 30 eiliad gan ddefnyddio sebon a dŵr (neu, os nad yw ar gael, hylif diheintio dwylo), a gall yr amser ychwanegol a gymerir fod yn effeithiol wrth ladd germau ac atal haint rhag lledaenu. 

Gall golchi eich dwylo'n rheolaidd helpu i atal COVID-19 a'r ffliw. Defnyddiwch y camau syml a ganlyn:

  1. Gwlychwch eich dwylo gyda dŵr a rhowch sebon arnynt
  2. Rhwbiwch eich dwylo ynghyd
  3. Sgrwbiwch bob rhan o'ch dwylo – cledrau eich llaw, eich dyrnau, eich bysedd, a rhwng eich bysedd
  4. Golchwch eich dwylo'n dda gyda dŵr
  5. Sychwch eich dwylo

I atal germau rhag lledaenu, mae hefyd yn arbennig o bwysig golchi'ch dwylo:

  • Ar ôl defnyddio'r toiled
  • Ar ôl chwythu eich trwyn, peswch neu tisian
  • Ar ôl defnyddio cludiant cyhoeddus
  • Ar ôl dod adref o siopa
  • Cyn ac ar ôl bwyta neu drin bwyd
  • Ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid neu anifeiliaid anwes

Gall golchi dwylo'n rheolaidd atal un o bob pum salwch anadlol fel annwyd a'r ffliw - ond mae'n bwysig golchi'ch dwylo'n effeithiol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Giri Shankar:

"Mae golchi dwylo’n arf syml ond pwerus i atal firysau'r gaeaf rhag lledaenu.

"Drwy gymryd dim ond 30 eiliad i olchi eich dwylo'n iawn, gallwch amddiffyn eich hun, eich anwyliaid, a'ch cymuned rhag clefydau fel y ffliw a COVID-19.

"Gall gweithredoedd bach fel hyn gael effaith fawr ar iechyd y cyhoedd."