Cyhoeddwyd: 3 Chwefror 2026
Mae teuluoedd ac unigolion o bob cwr o ogledd Cymru wedi cael eu gwahodd gan GIG Cymru i helpu i ail-lunio gofal diabetes mewn digwyddiad 'hacathon' arloesol – wrth i ffigurau ddatgelu bod y cyflwr bellach yn effeithio ar un o bob pump oedolyn ledled Cymru.
Bydd y digwyddiad yn dod â chleifion a chlinigwyr ynghyd mewn 'hacathon iechyd' cyflym—sesiwn a fydd yn canolbwyntio ar gyfuno profiad bywyd ac arbenigedd clinigol i ddatblygu datrysiadau ymarferol yn gyflym i heriau go iawn mewn gofal.
Mae tua 48,000 o bobl yng Ngogledd Cymru wedi cofrestru gyda'u meddygon teulu fel rhai sy'n byw gyda diabetes. Amcangyfrifir bod llawer mwy yn byw gyda chyn-diabetes neu ddiabetes Math 2 heb ei ddiagnosio.
Heb y gefnogaeth gywir, gall diabetes arwain at gymhlethdodau iechyd difrifol gan gynnwys clefyd y galon, strôc, problemau gyda’r arennau, colli golwg a thrychiadau. Ond gyda gofal da a'r wybodaeth gywir, gall pobl sy'n byw gyda diabetes fyw bywydau llawn ac iach – ac i'r rhai sydd mewn perygl o gael diabetes Math 2, gellir ei atal neu ei ohirio'n aml.
Mae'r Rhaglen Mynd i'r Afael â Diabetes Gyda'n Gilydd, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn rhaglen genedlaethol sy'n gweithio tuag at drawsnewid gofal diabetes ledled Cymru i bobl sy'n byw gyda diabetes Math 1 a Math 2.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynnal yr hacathon, gan wahodd pobl sy'n byw gyda diabetes, eu teuluoedd a'u gofalwyr yng Ngogledd Cymru i ddod ynghyd â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i helpu i lunio gwell cefnogaeth leol a llywio cynlluniau cenedlaethol.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol yn archwilio heriau go iawn gofal diabetes, hunanreoli ac atal.
Dywedodd David Taylor, Cyfarwyddwr Trawsnewid Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Rydym yn gwybod bod gofal sydd wedi'i deilwra i anghenion lleol, sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol iechyd gwael ac nid dim ond y canlyniadau, yn sicrhau y gall pawb yng Nghymru ffynnu a mwynhau gwell iechyd a llesiant.
“O ganlyniad i’n hacathon yn Ne Cymru rydym bellach yn datblygu canolfan adnoddau diabetes digidol newydd, hawdd ei defnyddio ar gyfer GIG Cymru, pecyn cymorth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar gyfer diabetes Math 2, gwelliant i Ap GIG Cymru a fydd yn blaenoriaethu swyddogaethau penodol i ddiabetes a system gefnogaeth gan gymheiriaid gryfach ledled Cymru.
"Rydym yn awr yn gyffrous i glywed am yr heriau penodol y mae pobl sy'n byw gyda diabetes yn eu hwynebu yng Ngogledd Cymru a sut y gallwn lunio ein cynlluniau i'w cefnogi'n well."
Dywedodd Dr Jane Moore, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Betsi Cadwaladr:
“Rydym yn edrych ymlaen at ddod â phobl sydd â phrofiad bywyd o ddiabetes ynghyd â’r clinigwyr a’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n eu cefnogi yma yng Ngogledd Cymru.
“Bydd clywed yn uniongyrchol gan gleifion a’u teuluoedd am yr hyn a allai wneud y gwahaniaeth mwyaf i’w bywydau yn adeiladu ar y gwaith pwysig rydym eisoes wedi’i ddechrau i atal diabetes, gwella ein model gofal a helpu pobl i fyw’n dda am hirach gyda’r cyflwr.”