Neidio i'r prif gynnwy

GIG Cymru yn Lansio Cymorth Diabetes Ychwanegol yn Dilyn Astudiaeth Mewnwelediadau Cleifion

Cyhoeddwyd: 11 Tachwedd 2025

Mae ymchwil newydd a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu mewnwelediadau allweddol i sut y gellir cefnogi pobl â diabetes Math 2 yng Nghymru yn well i fyw'n dda am hirach gyda'r cyflwr.

Mae GIG Cymru yn datblygu pecyn cynhwysfawr o gymorth ychwanegol ar gyfer diabetes yn dilyn yr ymchwil sydd wedi tynnu sylw at brofiadau ac anghenion pobl sy'n byw gyda diabetes Math 2 ledled y wlad a'r clinigwyr sy'n eu cefnogi. Mae hyn yn cynnwys sut mae pobl â Diabetes Math 2 yn llawn cymhelliant i reoli eu cyflwr, ond gallant ei chael hi'n anodd amsugno gwybodaeth tuag adeg eu diagnosis. 

Roedd yr astudiaeth, sydd wedi’i hategu gan fodelau a fframweithiau newid ymddygiad ac a gynhaliwyd gan Beaufort Research rhwng mis Chwefror a mis Mai 2025, yn cynnwys sgyrsiau manwl gyda 50 o oedolion sy'n byw gyda diabetes Math 2 a 15 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru sy'n darparu gofal a chymorth i bobl sy'n byw gyda diabetes. Archwiliodd y sgyrsiau'r rhwystrau a'r hwyluswyr i ymgysylltiad cleifion â: 

  • Gwasanaethau iechyd (er enghraifft, mynd i apwyntiadau, ceisio cymorth pan fo angen gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol fel meddygon teulu, nyrsys practis, nyrsys arbenigol diabetes, deietegwyr, sgrinwyr llygaid diabetig, podiatryddion, ac ymgynghorwyr ysbyty – ymhlith eraill - i helpu pobl i fyw'n dda gyda'u diabetes a'i reoli) 

  • Hunanreoli Diabetes Math 2 (gan gynnwys pethau fel cymryd meddyginiaeth fel y’i rhagnodir, gwirio lefelau siwgr yn y gwaed, a bod yn egnïol bob dydd). 

Tynnodd yr ymchwil sylw at y canlynol: 

  • Mae pobl â diabetes math 2 yn llawn cymhelliant i reoli eu cyflwr pan gânt y gefnogaeth a'r wybodaeth gywir 

  • Magwyd gwybodaeth a sgiliau trwy gyngor gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ymchwil bersonol, a dysgu o brofiadau pobl eraill.   

  • Roedd rhai yn ei chael hi'n anodd prosesu gwybodaeth, yn enwedig tuag adeg eu diagnosis.   

  • Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eisiau darparu gofal cyson a grymusol, ond mae angen adnoddau gwell arnynt 

  • Mae cefnogaeth deuluol a diwylliannol yn chwarae rhan hanfodol mewn rheoli diabetes yn llwyddiannus 

  • Mae llesiant emosiynol a seicolegol yn effeithio'n sylweddol ar lwyddiant hunanreolaeth 

  • Nid yw pobl yn manteisio’n ddigonol ar dechnoleg ddigidol eto.  

  • Roedd anawsterau o ran cael mynediad at wasanaethau yn gyffredin, gan gynnwys sicrhau apwyntiadau, argaeledd cyfyngedig, amserau anghyfleus, a phroblemau trafnidiaeth. 

  • Disgrifiodd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol bwysau systemig, hefyd (e.e. llwyth gwaith, prinder staff, cymorth seicolegol cyfyngedig i gleifion) a oedd yn effeithio ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau. 

  • Weithiau, roedd heriau sy'n gysylltiedig â'r gweithle yn cyfyngu ar allu cyfranogwyr i fynd i apwyntiadau neu reoli eu cyflwr. 

Dywedodd Dr Esther Mugweni, Dirprwy Bennaeth Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Yr hyn a’n trawodd fwyaf oedd yr ymrwymiad cryf gan gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gydweithio i wneud y gorau o’r canlyniadau. Er mwyn gallu hunanreoli diabetes yn effeithiol, mae angen gwybodaeth wedi'i theilwra ar unigolyn, yn ogystal â'r cyfle i ofyn cwestiynau, pryd bynnag y bo angen, ac mae hyn yn amhosibl ei gyflawni mewn unrhyw apwyntiad gofal iechyd. Mae'r ymchwil hon wedi rhoi dealltwriaeth glir inni o sut y gallwn gefnogi'r ddau grŵp yn well i gyflawni eu hamcanion cyffredin." 

Gan adeiladu ar y mewnwelediadau hyn, mae Rhaglen Mynd i’r Afael â Diabetes Gyda’n Gilydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu pedair menter newydd a gynlluniwyd i gryfhau’r bartneriaeth rhwng cleifion, teuluoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys: 

  • Hwb Cymorth Digidol Gwell: Hwb adnoddau diabetes GIG Cymru newydd sy'n hawdd ei ddefnyddio ac sy'n darparu gwybodaeth hygyrch a dibynadwy i gleifion, teuluoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan sicrhau bod modd i bawb gael mynediad at yr un adnoddau o ansawdd uchel. 

  • Pecyn Cymorth ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd: Deunyddiau cynhwysfawr wedi'u cynllunio ar y cyd â chlinigwyr a chleifion ac ar eu cyfer i gefnogi sgyrsiau cyson a grymuso o adeg y diagnosis ymlaen. 

  • Gwella Ap GIG Cymru: Gweithio gyda thîm Ap GIG Cymru i flaenoriaethu swyddogaethau penodol i ddiabetes a fydd yn helpu cleifion i olrhain eu cynnydd chadw mewn cysylltiad â'u gofal. 

  • Cefnogaeth Gryfach gan Gymheiriaid: Cysylltu â sefydliadau GIG Cymru, Diabetes UK Cymru, T1D Breakthrough a phartneriaid yn y sector cyhoeddus i wella ac ehangu rhaglenni cymorth gan gymheiriaid ledled Cymru, gan gydnabod rôl bwerus profiadau a rennir wrth reoli’r cyflwr yn llwyddiannus. 

Dywedodd David Taylor, Cyfarwyddwr Trawsnewid yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae diabetes heb driniaeth briodol yn dinistrio ac yn byrhau bywydau. Ond gyda'r gofal, y gefnogaeth a'r wybodaeth gywir, gall pobl â diabetes fyw bywydau hir ac iach. I rywun sydd newydd gael diagnosis, gall y cymorth cywir hyd yn oed arwain at ryddhad. Dyna pam ei bod hi mor bwysig eu bod nhw'n cael y lefel gywir o gymorth i'w galluogi i wneud hyn. 

"Bydd y mentrau hyn yn sicrhau bod pob unigolyn sy'n cael diagnosis yng Nghymru yn cael y sylfaen honno o gymorth o'r diwrnod cyntaf a thrwy gydweithio â'n gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ymroddedig, bydd yn ategu ein Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan bresennol, sy'n lleihau'r risg y bydd pobl â chyn-ddiabetes yn datblygu diabetes, a hynny 23 y cant."  

Dr Julia Platts, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru: "Mae rhywun â diabetes yn gwneud tua 180 o benderfyniadau bob dydd i reoli ei gyflwr ei hun yn effeithiol. I wneud hyn, mae angen llawer iawn o wybodaeth ar bobl am ddeiet, gweithgarwch, dealltwriaeth o roi inswlin, neu feddyginiaethau eraill a sut mae'r tair elfen hyn yn rhyngweithio â'i gilydd, trin glwcos uchel a/neu isel a beth i'w wneud pan fyddant yn sâl, newidiadau i’r mislif, neu newidiadau i'w harferion dyddiol.   

"Rydym yn croesawu'r cymorth cofleidiol estynedig hwn a fydd yn galluogi'r unigolyn â diabetes i gael mynediad at gymorth pan fydd ei angen arno, teimlo'n hyderus wrth wneud y penderfyniadau hyn, a gwybod pryd a ble i fynd pan fydd angen cymorth clinigol arno."   

Mae pobl â diabetes yn treulio tua 8,757 awr y flwyddyn yn rheoli eu cyflwr yn annibynnol, o’i gymharu â dim ond 3 awr gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd hanfodol sicrhau bod cleifion yn cael eu cefnogi i deimlo'n hyderus a’u bod wedi'u paratoi'n dda ar gyfer hunanreoli.  

Gyda dros 220,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes ar hyn o bryd, mae'r Rhaglen Mynd i'r Afael â Diabetes Gyda'n Gilydd yn cynrychioli dull cydweithredol o wella canlyniadau a sicrhau bod gan bawb y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fyw'n dda gyda'u cyflwr.

Adroddiad

Ymgysylltu â gwasanaethau a hunanreoli Diabetes Math 2