Cyhoeddwyd: 3 Mawth 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd iechyd yr ymennydd yn dilyn adolygiad o dystiolaeth ryngwladol sy'n dangos y gellid atal hyd at 45 y cant o achosion o ddementia.
Er bod dementia yn aml yn cael ei ystyried yn rhan anochel o heneiddio, mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod newidiadau i ffordd o fyw ac amgylcheddol yn chwarae rhan sylweddol wrth leihau risg.
Mae dementia yn her iechyd fyd-eang fawr sydd ar gynnydd. Yn 2019, amcangyfrifwyd bod 57 miliwn o bobl ledled y byd yn byw gyda'r cyflwr, ffigur yr amcangyfrifir y bydd yn codi i 153 miliwn erbyn 2050. Ar hyn o bryd, dyma'r seithfed prif achos marwolaeth yn fyd-eang ac mae'n cyfrannu’n helaeth at anabledd ymhlith oedolion hŷn.
Mae'r effaith economaidd hefyd yn sylweddol, a gwnaeth costau byd-eang gyrraedd 1.3 triliwn o ddoleri yn 2019 a disgwylir iddynt fwy na dyblu erbyn 2030. Mae'r ffigurau hyn yn tynnu sylw at yr angen brys am strategaethau atal a all leihau baich dynol ac ariannol dementia.
Mae ymchwil yn awgrymu y gellid atal hyd at 45 y cant o achosion o ddementia drwy fynd i'r afael â 14 ffactor risg y gellir eu haddasu ar draws cwrs bywyd. Mae'r rhain yn cynnwys anweithgarwch corfforol, ysmygu, yfed gormod o alcohol, colli clyw a golwg heb eu trin, ynysigrwydd cymdeithasol, a chyflyrau fel pwysedd gwaed uchel, diabetes a gordewdra. Mae'r dystiolaeth hon yn herio'r safbwynt hirhoedlog bod dementia yn rhan anochel o heneiddio ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithredu'n gynnar ac yn barhaus i amddiffyn iechyd yr ymennydd.
Dywedodd Dr Mariana Dyakova, Pennaeth Iechyd Rhyngwladol ac Arweinydd yr Economi Llesiant ar gyfer Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Mae'r dystiolaeth yn glir; nid yw dementia yn anochel. Drwy wneud newidiadau i'n ffordd o fyw a'n hamgylchedd, gallwn leihau'r risg yn sylweddol. Dyma alwad i weithredu i flaenoriaethu iechyd yr ymennydd drwy gydol oes. Nid yn unig y mae atal yn bosibl, mae'n bwerus, ac mae'r manteision yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddementia i wella iechyd a llesiant cyffredinol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes yn gweithio gyda phartneriaid i gefnogi hyn.
Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:
“Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n cryfhau’r achos dros weithredu’n gynnar ac yn barhaus i ddiogelu iechyd yr ymennydd.
“Rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau a chymorth i bobl â dementia ac yn ymgynghori ar Strategaeth Dementia newydd i Gymru. Byddwn yn annog pobl i rannu eu barn a helpu i lunio dyfodol gwasanaethau a chymorth.”
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ddulliau rhyngwladol addawol, gan gynnwys rhaglenni ffordd o fyw aml-faes fel treial FINGER y Ffindir. Cyfunodd yr ymyriad arloesol dwy flynedd hwn weithgarwch corfforol, bwyta'n iach, hyfforddiant gwybyddol, a rheoli ffactorau risg fasgwlaidd, ac arweiniodd at welliannau sylweddol i berfformiad gwybyddol oedolion hŷn sydd mewn perygl o ddementia. Mae'r model bellach yn cael ei addasu'n fyd-eang trwy rwydwaith FINGERS Byd-eang.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog unigolion i gymryd camau ymarferol i leihau eu risg. Mae cadw'n gorfforol egnïol, bwyta deiet cytbwys, cynnal cysylltiadau cymdeithasol, a rheoli cyflyrau iechyd fel pwysedd gwaed uchel, diabetes, a cholesterol uchel, i gyd yn chwarae rhan hanfodol. Gall ceisio triniaeth ar gyfer colli clyw a golwg, osgoi ysmygu, a chyfyngu ar yfed alcohol leihau'r risg ymhellach. Mae'r camau hyn yn amddiffyn rhag dementia ac yn cefnogi iechyd a llesiant cyffredinol hefyd.
Daw'r canfyddiadau o'r adroddiad Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol diweddaraf a gynhyrchwyd gan Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r adroddiad yn adolygu tystiolaeth fyd-eang ar strategaethau atal dementia ac yn tynnu sylw at enghreifftiau o wledydd gan gynnwys y Ffindir, Japan, De Korea, Uruguay, a'r Deyrnas Unedig. Mae'n mabwysiadu dull cwrs bywyd, sy’n cydnabod bod ffactorau risg yn cronni o fywyd cynnar ac y dylanwadir arnynt gan amodau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach.
Gallwch weld yr adroddiad yma:
Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol: Atal Dementia