Cyhoeddwyd: 23 Tachwedd 2023
Mae menyw sydd wedi dibynnu ar wrthfiotigau ers ei genedigaeth wedi ymuno â galwadau i bobl weithredu er mwyn helpu i fynd i'r afael â gorddefnyddio'r meddyginiaethau hanfodol hyn.
Mae Cerys Upstone, 19, yn fyfyriwr newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd a chafodd ddiagnosis o ffeibrosis systig pan oedd yn bedair wythnos oed. Mae ffeibrosis systig yn gyflwr sy'n cael ei etifeddu sy'n achosi i fwcws gludiog gronni yn yr ysgyfaint a'r system dreulio. Mae hyn yn achosi heintiau ar yr ysgyfaint a phroblemau wrth dreulio bwyd.
Fel y rhan fwyaf o gleifion ffeibrosis systig, mae Cerys wedi gorfod cymryd gwrthfiotigau, weithiau'n rheolaidd, yn ystod ei bywyd cyfan i reoli'r heintiau hyn a'u hatal rhag achosi niwed pellach. Fodd bynnag, mae bacteria yn raddol yn gwrthsefyll y gwrthfiotigau hyn sy'n golygu eu bod yn llai effeithiol a allai olygu goblygiadau difrifol iawn i bobl fel Cerys.
“Mae angen i mi gymryd cryn dipyn o wrthfiotigau ac mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn fy mhoeni,” meddai Cerys. “Roeddwn yn arfer bod ar wrthfiotigau hirdymor gan fy mod yn cael heintiau drwy'r amser. Cymerais y rhain am flynyddoedd. Rwy'n ddibynnol iawn ar wrthfiotigau, rwyf wedi bod yn ddibynnol arnynt ar hyd fy oes, ac mae'n rhywbeth rwy'n cwestiynu meddygon amdano bob amser.”
Fel plentyn, dywedodd Cerys y byddai'n datblygu haint difrifol oddeutu bob yn ail flwyddyn, a fyddai'n golygu ei bod yn gorfod mynd i'r ysbyty a chael gwrthfiotigau mewnwythiennol. Yn 2021, dechreuodd gael therapi cyfuniad triphlyg a arafodd y gostyngiad yng ngweithrediad ei hysgyfaint. Er ei bod yn dal i ddioddef o heintiau rheolaidd ar y frest, nid yw Cerys wedi gorfod cael cwrs o wrthfiotigau mewnwythiennol ers dechrau'r therapi hwn.
Yn Ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymwrthedd Gwrthficrobaidd y Byd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar ymarferwyr meddygol a'r cyhoedd i ddefnyddio gwrthfiotigau dim ond pan fo angen i reoli'r pandemig tawel hwn a allai effeithio ar bob un ohonom os bydd y meddyginiaethau hyn yn peidio â bod yn effeithiol.
Y perygl o ddefnyddio gwrthfiotigau pan nad oes eu hangen yw y gall arwain at ymwrthedd gwrthficrobaidd, pan nad yw bacteria bellach yn cael eu lladd gan y gwrthfiotig. Ni ddylai unrhyw un gadw gwrthfiotigau ar gyfer nes ymlaen na'u rhannu â theulu, ffrindiau neu anifeiliaid anwes. Os oes gennych wrthfiotigau heb eu defnyddio dylech eu dychwelyd i'ch fferyllfa leol. Mae eu taflu i'r bin neu eu fflysio i lawr y toiled yn arwain at halogi afonydd, gan fygwth iechyd pobl ac anifeiliaid.
Meddai Dr Eleri Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol a Phennaeth y Rhaglen Heintiau Cysylltiedig â Gofal Iechyd ac Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae gwrthfiotigau'n adnodd gwerthfawr, sy'n achub bywydau ac mae angen i ni eu defnyddio'n gyfrifol. Os na wnawn, y perygl yw y bydd ein meddyginiaethau gwrthfiotig yn mynd yn aneffeithiol, sy'n golygu na fyddwn yn gallu trin heintiau cyffredin.”
Mae adeiladau'n cael eu goleuo'n las i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Ymwrthedd Gwrthficrobaidd y Byd.
Ymwrthedd i wrthfiotigau yw un o'r bygythiadau mwyaf sy'n ein hwynebu.
Dysgwch ragor :