Neidio i'r prif gynnwy

Gallai mynd i'r afael ag anghydraddoldeb arbed £322 miliwn i ysbytai yng Nghymru bob blwyddyn

Cyhoeddwyd: 16 Rhagfyr 2021

Mae anghydraddoldeb o ran y defnydd o ysbytai  yn costio'r hyn sy'n cyfateb i ysbyty GIG newydd sbon, neu gyflogau blynyddol bron 10,000 o nyrsys ychwanegol bob blwyddyn i’r GIG yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Neu, gallai'r arian a arbedir ddarparu pedair gwaith y cyllid sydd ei angen ar gyfer rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru, sef Dechrau'n Deg, sy'n ceisio cynorthwyo'r teuluoedd, cymunedau a phlant ifanc mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  

Mae'r adroddiad, sy'n edrych ar wahanol wasanaethau ysbytai, yn dweud y gallai camau ataliol wedi'u targedu at wella cydraddoldeb iechyd rhwng cymunedau breintiedig a difreintiedig a'u mynediad amserol at wasanaethau iechyd helpu i leihau bwlch gofal iechyd o £322 miliwn, yn enwedig mewn derbyniadau brys a phresenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. 

Canfu'r adroddiad fod cost flynyddol gyfartalog darpariaeth gwasanaeth iechyd yn uwch ar y cyfan ar gyfer y rhai sy'n byw yn ein cymunedau mwy difreintiedig.  Roedd y costau ar eu huchaf ymhlith oedolion o oedran gweithio ym mhob categori gwasanaeth ysbyty, ac eithrio derbyniadau dewisol i gleifion mewnol. Mae'r rhesymau dros y bylchau hyn yn gymhleth a byddant yn cael eu trafod mewn astudiaethau pellach i ehangu dealltwriaeth o sut y mae gwahaniaethau o ran y boblogaeth ac amddifadedd yn dylanwadu ar y defnydd o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. 

Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn ystod yr ymateb i bandemig COVID-19 ac adferiad y GIG a'r economi ehangach yng Nghymru yn y dyfodol. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Mae'r darn hwn o waith unwaith eto'n dangos y cysylltiad rhwng afiechyd ac amddifadedd – cyswllt a fydd, yn anffodus, wedi'i ddyfnhau gan effaith y pandemig. 

“Mae'r GIG dim ond yn rhan o'r stori o ran gwrthdroi anghydraddoldebau iechyd dwfn, sy'n golygu bod pobl mewn ardaloedd difreintiedig yn aml â'r iechyd gwaethaf. Mae angen i ni edrych ar achosion bob dydd afiechyd, gan gynnwys addysg, tai a chyflogaeth. Mae ymchwil wedi dangos y gall gwella'r rhain helpu i roi terfyn ar y cylch o anghydraddoldebau iechyd. Ond mae angen i ni hefyd barhau i weithio i wella mynediad at ofal iechyd a rheoli cyflyrau hirdymor presennol pobl yn well yn y gymuned, yn agosach at eu cartrefi.” 

Meddai Mark Bellis, Cyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Yn anffodus, am ddegawdau lawer mae'r rhai ag incwm is, llai o adnoddau ac sy'n byw mewn cymunedau mwy difreintiedig yn aml yn dioddef iechyd gwaeth drwy gydol eu bywydau. Gallant ddatblygu mwy o broblemau iechyd ar oedrannau iau gan gynnwys achosion sefydledig o salwch a marwolaeth gynnar fel clefyd y galon ac maent hefyd yn wynebu risg uwch o fygythiadau newydd gan gynnwys COVID-19. Yn yr adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru rydym wedi trafod faint o arian y gellid ei arbed yng nghostau gofal ysbyty iechyd y GIG os byddwn yn cau'r bwlch anghydraddoldebau hwn.  

“Mae'r canfyddiadau yn nodi bod tua £9 o bob £100 sy'n cael ei wario mewn ysbytai o ganlyniad i anghydraddoldebau iechyd parhaus, sy'n gyfanswm yng Nghymru o tua thraean o biliwn o bunnau bob blwyddyn. Dyma gost anghydraddoldebau i wasanaethau ysbytai yn unig a bydd gwaith gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y dyfodol yn ystyried yr arbedion posibl mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymdeithasol os byddwn yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.” 

Mae canfyddiadau allweddol eraill yr adroddiad yn cynnwys: 

  • Yn gyffredinol, nid oes gwahaniaeth sylweddol yn y costau sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldeb rhwng dynion a menywod 
  • Presenoldeb a derbyniadau brys sy'n profi'r costau cyfrannol uchaf sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldeb o ran patrwm cymdeithasol o ddefnydd gwasanaeth- mae graddiant cymdeithasol clir gyda bwlch anghydraddoldeb mwy ar gyfer presenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, wedi'i ddilyn gan dderbyniadau cleifion mewnol brys a mamolaeth 
  • Derbyniadau cleifion mewnol brys yw'r cyfrannwr mwyaf i'r gost gyffredinol sy'n gysylltiedig ag anghydraddoldeb, gyda chost ychwanegol o £247.4 miliwn bob blwyddyn  
  • Mae amddifadedd yn effeithio ar gost derbyniadau cleifion mewnol mamolaeth yn wahanol yn ôl grŵp oedran – priodolir cost uwch i fenywod yn eu hoedran atgenhedlu cynnar (15 – 29 oed) o'r ardaloedd mwy difreintiedig; ac i fenywod yn eu hoedran atgenhedlu diweddarach (30 – 44 oed) o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig. 

Meddai Dr Brendan Collins, Pennaeth Economeg Iechyd yn Llywodraeth Cymru:  

“Mae hwn yn ddarn defnyddiol iawn o waith sy'n dangos bod y gwariant ar ofal ysbyty yn uwch ar bobl mewn ardaloedd mwy difreintiedig; mae'r graddiant cymdeithasol yn fwy ar gyfer gofal heb ei gynllunio a allai ddangos risg uwch o drawma, anafiadau ac anghenion gofal eraill heb eu cynllunio, a gall ddangos cyfleoedd i roi diagnosis o gyflyrau hirdymor a'u rheoli yn well yn y gymuned, gan ganolbwyntio ar ardaloedd mwy difreintiedig. Un rhan o'r stori yn unig yw'r system iechyd; mae angen i ni edrych ar achosion bob dydd iechyd fel addysg, tai, a chyflogaeth a sut rydym yn atal afiechyd ar draws y cwrs bywyd – materion y mae'r pandemig wedi tynnu hyd yn oed mwy o sylw atynt.” 

Bydd dangosfwrdd rhyngweithiol hefyd yn ategu'r adroddiad. Bydd hyn yn galluogi i'r defnyddiwr i archwilio'n fanwl y costau sy'n gysylltiedig ag annhegwch yn ôl categori gwasanaeth, rhyw, oedran a lefel amddifadedd. 

Adroddiad