Neidio i'r prif gynnwy

Gallai dysgu gwersi o'r pandemig weld gostyngiad hirdymor mewn llygredd aer trefol

Mae blaenoriaethu mynediad at deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn bwysig er mwyn lleihau teithiau mewn ceir a chysylltiad â llygredd aer i bawb yn ôl casgliad papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan dîm o'r Adran Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn cydweithrediad â chydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Lloegr. 

Dywedodd Sarah J Jones, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol ar gyfer yr Adran Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Mae'r ffordd rydym yn teithio yn effeithio ar i ba raddau rydym yn dod i gysylltiad â llygredd aer a nod yr astudiaeth hon oedd edrych ar sut roedd y cysylltiad yn amrywio i bobl sy'n cerdded, beicio, gyrru neu'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mewn rhai achosion, roedd pobl mewn ceir yn dod i gysylltiad â mwy o lygryddion, mewn eraill, roedd mwy o gysylltiad ymhilth y bobl oedd yn beicio. Mae llawer o ffactorau yn effeithio ar hyn, er enghraifft, lleoliad lonydd beicio a llwybrau troed a sut y mae awyr iach yn cael ei dynnu i mewn i geir. Ond, gwelsom hefyd fod pobl sy'n cerdded, yn beicio ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn iachach na'r rhai sy'n gyrru.  

 “Mae pandemig COVID-19 wedi arwain at lawer o newidiadau yn y ffordd rydym yn teithio ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi cynifer o bobl â phosibl i ddefnyddio teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig ar gyfer teithiau byr, fel y rhai o amgylch y dref, er mwyn i ni wella ein hansawdd aer i bawb.” 

Ymhlith y canfyddiadau allweddol eraill roedd:  

  • Yn aml, gwelwyd crynodiadau uwch o lygryddion aer ymhlith y rhai sy'n cymudo mewn ceir o gymharu â beicio a cherdded 
  • Ar y cyfan, roedd cerddwyr a beicwyr yn dod i gysylltiad â chrynodiadau is o lygredd aer wrth ddefnyddio llwybrau wedi'u gwahanu oddi wrth draffig modur;  
  • Mae crynodiadau llygredd ar gyfer pob dull trafnidiaeth yn dibynnu ar agosrwydd at nifer mawr o draffig modur, gyda'r crynodiadau o lygryddion ar eu huchaf ar gyffyrdd traffig prysur  
  • Roedd llygredd aer yn fwy yn ystod oriau brig y bore nag oriau brig y prynhawn a'r crynodiadau y tu allan i oriau brig oedd yr isaf 
  • Gan ystyried iechyd cyhoeddus a manteision amgylcheddol ehangach, tymor hwy, dylid gwneud pob ymdrech i flaenoriaethu teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus a galluogi mwy o bobl i ddefnyddio'r dulliau hyn. 

Mae'r papur ‘Assessing the exposure to air pollution during transport in urban areas – Evidence review’ wedi'i gyhoeddi gan y Journal of Transport and Health. Adolygodd astudiaethau a oedd yn mesur crynodiadau llygryddion mewn microamgylcheddau trafnidiaeth drefol ac a gyhoeddwyd rhwng mis Ionawr 2016 a mis Gorffennaf 2020.  

Dylid defnyddio tystiolaeth o'r adolygiad hwn i helpu i lywio negeseuon iechyd cyhoeddus cyson yn ogystal â datblygu polisïau trafnidiaeth a chynllunio mewn ardaloedd trefol.   

Am ragor o wybodaeth:- 

Journal of Transport and Health:  Assessing the exposure to air pollution during transport in urban areas – Evidence review (Saesneg yn unig)