Cyhoeddwyd: 9 Medi 2025
Bydd nodi a thrin hyd at 70,000 yn fwy o bobl yng Nghymru sydd â phwysedd gwaed uchel yn atal mwy na 1,000 o drawiadau ar y galon a strôcs ac yn arbed bron i £18 miliwn i'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru dros dair blynedd.
Mae hynny yn ôl cynllun newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i bartneriaid, sy'n edrych ar yr effaith y bydd atal clefyd cardiofasgwlaidd (CVD) yn ei chael ar unigolion a'u teuluoedd - yn ogystal â chyllideb y GIG.
Mae'r cynllun, ' Cynllun Atal Clefydau Cardiofasgwlaidd Cymru: Dull ABCD Plus ', yn defnyddio data modelu i ddangos y manteision posibl enfawr o gefnogi cynifer o bobl â phosibl gyda'u ffactorau risg CVD, gan gynnwys rheoli eu pwysedd gwaed a'u colesterol, eu risg o ddatblygu diabetes, eu pwysau, a'u cefnogi i roi'r gorau i ysmygu yn ôl yr angen.
Mae'n dangos, pe bai tua 17,000 o gleifion yn cael eu cefnogi i reoli eu pwysedd gwaed, y byddai 102 o drawiadau ar y galon a 152 o strôcs yn cael eu hatal. Fodd bynnag pe bai modd rheoli pwysedd gwaed tua 70,000 yn fwy o gleifion, yna byddai'n osgoi 419 o drawiadau ar y galon a 626 o strôcs.
Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn disgrifio ystod o gyflyrau sy'n effeithio ar y galon a'r pibellau gwaed, a all arwain at ganlyniadau difrifol a bygwth bywyd fel trawiadau ar y galon a strôc. Mae CVD yn achosi 27 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru, yn ogystal ag anableddau fel parlys, dementia a symudedd cyfyngedig, ac mae'n faich ariannol enfawr ar gymdeithas, gan gostio £770 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru.
Mae CVD hefyd yn un o'r cyfranwyr mwyaf at anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, ac mae gwahaniaethau mawr mewn canlyniadau rhwng grwpiau economaidd-gymdeithasol. Mae pobl yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn fwy tebygol o gael ffactor risg fel pwysedd gwaed uchel, ac felly maent yn fwy tebygol o gael trawiad ar y galon neu strôc, gan arwain at arhosiad yn yr ysbyty a marwolaeth.
Ond nid oes rhaid iddi fod fel hyn. Gellir atal cynifer ag 80 y cant o farwolaethau cynnar o glefyd cardiofasgwlaidd, a gall newidiadau bach greu ffordd o fyw llawer iachach – fel gwella'ch deiet, bod yn fwy egnïol, rhoi'r gorau i ysmygu a lleihau'r defnydd o alcohol. Yn ogystal, mae Prif Swyddogion Meddygol ledled y DU yn cefnogi'r defnydd o 'atal eilaidd' ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd – hynny yw, nodi ffactorau risg yn gynnar mewn cleifion ac yn ogystal â chynnig cyngor yn seiliedig ar risg i unigolion, rhagnodi statinau a meddyginiaeth lleihau pwysedd gwaed. Bydd cymryd y camau hyn yn lleihau'r siawns o ddatblygu cyflyrau CVD a allai newid bywyd a bygwth bywyd.
Mae'r uchelgais hon yn mynd law yn llaw â chryfhau gofal sylfaenol yng Nghymru, fel y gellir cefnogi mwy o bobl i gael eu ffactorau risg wedi'u canfod a'u trin yn gynnar, gan eu helpu i fyw bywydau iachach.
Dywedodd Dr Amrita Jesurasa, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae ein cynllun atal newydd yn rhoi’r person wrth wraidd eu gofal, gan gydnabod bod pobl yn debygol o fod â mwy nag un risg cardiofasgwlaidd. Er enghraifft, os oes gan rywun bwysedd gwaed uchel, mae angen i ddarparwyr gofal iechyd allu manteisio ar bob cyfle i reoli colesterol y person, ei risg o ddatblygu diabetes, ei bwysau, a'i gefnogi i roi'r gorau i ysmygu yn ôl yr angen.
"Yn ogystal, bydd yn lleihau baich ariannol trawiadau ar y galon a strôc – mae clefyd cardiofasgwlaidd (CVD) yn costio hyd at £1.6 biliwn i economi Cymru yn gyffredinol bob blwyddyn o ganlyniad i farwolaethau cynamserol, anabledd a gofal hirdymor, felly mae er budd pawb i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobl i fyw bywydau hirach ac iachach a lleihau’r costau hyn i’r economi.
“Drwy atal CVD byddwn hefyd yn cymryd camau breision o ran lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, gan fod nifer yr achosion o CVD yn sylweddol uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac yn achosi canlyniadau mwy difrifol gan gynnwys derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau.
“Mae’n gyfle na ellir ei golli.”
Dywedodd Dr Jonathan Goodfellow, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Rhwydwaith Clefyd Cardiofasgwlaidd Cymru:
“Mae Cymru yn wynebu her iechyd sylweddol, sef baich cynyddol clefyd cardiofasgwlaidd, sy'n effeithio'n arbennig ar y cymunedau mwyaf difreintiedig ac yn arwain at anghydraddoldebau iechyd.
“Mae angen canolbwyntio ar waith atal ar frys, gan dargedu'r poblogaethau mwyaf difreintiedig a'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o gael clefyd cardiofasgwlaidd, er mwyn gwella ansawdd bywyd a lleihau baich clefyd cardiofasgwlaidd ar ein GIG.
"Mae datblygiad Cynllun Atal CVD i Gymru yn ganlyniad cydweithio rhwng partneriaid ar draws GIG Cymru a'r trydydd sector, a bydd yn ein galluogi i fynd i'r afael â'r her hon gyda'n gilydd."
Mae'r adroddiad i'w gael yma.
Cynllun Atal Clefydau Cardiofasgwlaidd Cymru: Dull ABCD Plus
Am fwy o fanylion am CVD a'i risgiau, gallwch ymweld â:
GIG: https://www.nhs.uk/conditions/cardiovascular-disease/
Sefydliad Prydeinig y Galon: https://www.bhf.org.uk/informationsupport/conditions/cardiovascular-disease
Diabetes y DU: https://www.diabetes.org.uk/about-diabetes/looking-after-diabetes/complications/cardiovascular-disease