Neidio i'r prif gynnwy

Gall camau gweithredu wedi'u targedu helpu i atal brigiadau o achosion o'r frech goch yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 22 Gorfennaf 2025

Mae astudiaeth newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi amlygu bod angen i fwy o bobl gael eu brechu rhag y Frech Goch, Clwy'r Pennau a Rwbela (MMR) ymysg grwpiau ac mewn ardaloedd allweddol ledled Cymru. 

Mae'r adroddiad modelu gan y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn archwilio'r potensial ar gyfer brigiadau o achosion o'r frech goch ac yn dangos bod y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru wedi'u hamddiffyn yn dda ac yn annhebygol o gynnal trosglwyddiad cymunedol eang o'r frech goch. 

Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod gan rai lleoliadau – yn enwedig yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a threfi prifysgol fel Aberystwyth a Bangor – bocedi o boblogaethau lle mae'r nifer sydd wedi'u brechu'n is. Yn yr ardaloedd hyn, gallai lledaeniad y frech goch gael ei ysgogi gan drosglwyddiad ymhlith pobl ifanc ac oedolion ifanc. 

Canfu'r modelu fod y risg uchaf o drosglwyddiad parhaus yn bodoli yn y grŵp oedran 18-24, yn enwedig mewn ardaloedd trefol a lleoliadau prifysgol. Mae hefyd yn nodi bod pobl ifanc 11-17 oed yn grŵp allweddol mewn sawl ardal sydd â nifer cymedrol o bobl sydd wedi'u brechu. 

Mae brechu rhag MMR yn ddiogel, yn effeithiol, ac mae'r GIG yn ei gynnig am ddim. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog unigolion sy'n ansicr o'u statws brechu MMR eu hunain neu eu plentyn i wirio hyn gyda'u meddyg teulu neu fwrdd iechyd lleol. 

Mae'r frech goch yn glefyd heintus iawn, ond gellir ei atal gyda dau ddos o'r brechlyn MMR. Cael y brechiadau diweddaraf yw'r ffordd fwyaf effeithiol o hyd o'i atal rhag lledaenu. Mae risgiau’n gysylltiedig â pheidio â chael eich brechu – i chi’ch hun ac i unigolion eraill sy’n agored i niwed gan gynnwys babanod, menywod beichiog nad ydynt wedi cael y brechlyn, pobl hŷn a’r rhai â systemau imiwnedd gwannach.  

Llwyddodd ymgyrch MMR genedlaethol yn 2024 i roi dros 5,500 o ddosau MMR i blant oedran ysgol. Er gwaethaf hyn, mae dros 200 o ysgolion cynradd a 25 o ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi cofnodi cyfraddau derbyn dau ddos o dan 90 y cant o hyd, sy'n eu gwneud yn fwy agored i frigiadau o achosion. 

Mae'r adroddiad yn cynnwys 11 o argymhellion allweddol i helpu i leihau'r risg y bydd brigiadau o achosion yn y dyfodol gan gynnwys: 

  • Ymdrechion wedi'u targedu i gynyddu’r cyfraddau brechu ymhlith pobl ifanc ac oedolion ifanc 
  • Cadw cofnodion brechu gwell, gwirio statws a'i gofnodi wrth gofrestru gyda meddyg teulu a chofrestru mewn prifysgol 
  • Mwy o ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol o'r risg uwch y mae rhai grwpiau oedran ac ardaloedd yn ei hwynebu 
  • Datblygu'r dull modelu yn barhaus i gefnogi polisi a chynllunio yn y dyfodol 

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos i ni ble mae angen i ni ganolbwyntio ein hymdrechion i amddiffyn unigolion a chymunedau rhag y frech goch. Mae mwyafrif helaeth Cymru yn parhau i wynebu perygl isel, ond rhaid inni weithredu nawr er mwyn lleihau'r risg ymhellach. 

“Drwy ganolbwyntio ar y grwpiau oedran a’r lleoliadau a nodwyd yn yr adroddiad, gallwn atal brigiadau o achosion yn y dyfodol ac amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.” 

Mae rhagor o wybodaeth am MMR gan gynnwys cymhwysedd ar gyfer y brechlyn ar gael yma: https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/y-frech-goch-clwyr-pennau-a-rwbela-mmr/