12 Tachwedd 2024
Gall tymheredd ein cartref effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor. Mae’r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth bod byw mewn cartref oerach (ar dymheredd is na 18°C) yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol ar iechyd a llesiant, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn neu’r rhai sydd â chyflyrau iechyd neu anableddau. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys cyfres o argymhellion ar y drefn wresogi foddhaol yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn argymell, er mwyn diogelu iechyd, y dylem gynhesu ein cartrefi (neu o leiaf ardaloedd byw a ddefnyddir yn gyffredin), i dymheredd cyfforddus nad yw’n is na 18°C. Gallai fod angen i gartrefi â phreswylwyr hŷn neu’r rhai â chyflyrau iechyd neu anableddau wresogi eu cartrefi i dymheredd uwch na 18°C.
Mae’r argymhellion yn seiliedig ar waith ar y cyd a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor. Mae’n cynnwys adolygiad o’r dystiolaeth ar gartrefi oer ac arolwg o gartrefi gyda dros ddwy fil o drigolion Cymru yn archwilio cynhesrwydd tai yn ystod y gaeaf.
Roedd gan wyth o bob deg o gyfranogwyr yr arolwg (79 y cant) thermostat ystafell sy’n gweithio neu reolydd tymheredd digidol yn eu cartref. O’r rhai a nododd dymheredd thermostat ystafell, dywedodd un o bob deg (10.7 y cant) fod eu thermostat wedi’i osod ar dymheredd islaw 18°C, sy’n arwydd o gartref oerach. Roedd y rhai a oedd yn rhentu eu cartrefi'n breifat ddwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn byw mewn cartref oerach na pherchnogion tai. Roedd unigolion a oedd yn byw mewn cartrefi oerach dros ddwywaith yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gyndyn o wahodd gwesteion i'w cartref oherwydd anawsterau i'w gadw'n gynnes o’i gymharu â rhai a oedd yn byw mewn cartrefi cynhesach.
Ymhlith y grwpiau a oedd yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn lleihau maint eu prydau bwyd neu’n hepgor prydau bwyd oherwydd cost gwresogi’r cartref, roedd: aelwydydd â phreswylydd anabl neu incwm isel, ac unigolion â chyflyrau iechyd, a oedd yn iau, yn byw ar eu pen eu hunain neu gydag o leiaf un plentyn, a'r rhai nad oedd yn berchen ar eu cartref.
Dywedodd naw o bob deg (89 y cant) eu bod yn teimlo cysur thermol (teimlo’n gyfforddus o gynnes) yn eu prif fan byw. O'r rhai a nododd anghysur thermol, dywedodd dros saith o bob deg (71 y cant) fod hyn oherwydd ei fod yn costio gormod i gadw'r gwres ymlaen.
Mae canfyddiadau'r adroddiad yn bwysig oherwydd eu bod yn dangos effaith costau gwresogi ar allu pobl i wresogi eu cartrefi'n ddigonol yn ystod y gaeaf.
Dywedodd Dr Rebecca Hill, Uwch Arbenigwr Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Mae ein hargymhellion yn seiliedig ar y dystiolaeth helaeth y gall tymheredd cartrefi o dan 18°C fod yn niweidiol i iechyd a llesiant. Rydym yn cydnabod bod pobl sy’n hŷn neu sydd â chyflyrau iechyd neu anableddau mewn perygl arbennig o gael canlyniadau iechyd a llesiant negyddol mewn cartrefi oer. Fodd bynnag, dylid cydnabod y perygl ehangach i gartrefi oer; er enghraifft, roedd aelwydydd incwm isel a'r rhai nad oeddent yn berchen ar eu cartref mewn mwy o berygl o adrodd am y canlyniadau negyddol a fesurwyd.
"O’r herwydd, dylid diweddaru canllawiau gwresogi cartrefi dros amser wrth inni ddysgu mwy am ba bobl sy’n agored i gartrefi oer a sut. Yn ogystal - sut y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth bwysig hon, i geisio mynd i’r afael ag unrhyw anghydraddoldebau iechyd sy’n deillio o hynny.”
Dywedodd Dr Kat Ford, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, “Cynhaliwyd ein harolwg o gartrefi ar adeg pan oedd costau ynni a hanfodion eraill y cartref yn dechrau cynyddu, ond cyn yr uchafbwynt mewn biliau ynni. Mae’n debygol y gallai mwy o bobl yng Nghymru ei chael yn anodd gwresogi eu cartrefi yn ddigonol y gaeaf hwn. Felly, mae’n bwysig bod aelodau’r cyhoedd yn gallu cyrchu gwybodaeth a chyngor ar gadw’n iach ac yn ddiogel gartref yn y gaeaf.”
Os ydych chi'n cael trafferth gyda chostau ynni, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni a allai helpu.
Mae rhagor o wybodaeth am help gyda biliau cyfleustodau ar gael drwy fynd i: Cymorth gyda’ch biliau cyfleustodau | LLYW.CYMRU
I gael rhagor o wybodaeth am iechyd yn ystod y gaeaf ewch i: Brechiadau’r gaeaf ac iechyd yn ystod gaeaf – GIG (Saesneg yn unig)
Gellir dod o hyd i wybodaeth a chyngor eraill trwy gysylltu â’r sefydliadau hyn: Cyngor ar Bopeth - 0800 702 2020
National Energy Action (NEA) - prif elusen tlodi tanwydd y DU (Saesneg yn unig)
Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Ynni National Energy Action - 0800 304 7159
Elusen sy’n darparu gwasanaeth cymorth a chyngor am ddim i ddeiliaid tai yng Nghymru a Lloegr ar eu biliau ynni a chadw’n gynnes, yn ddiogel ac yn iach yn eu cartrefi. Gallant hefyd helpu gyda chyngor ar fudd-daliadau a chynyddu incwm.
Mynd i'r Afael â Thlodi Tanwydd yng Nghymru Gyda'n Gilydd - Cymru Gynnes Cymru Gynnes - 0800 091 1786
Elusen sy'n darparu cynhesrwydd fforddiadwy i gartrefi i leihau tlodi tanwydd. Gallant ddarparu grantiau cysylltu nwy i helpu aelwydydd cymwys i gysylltu â'r rhwydwaith nwy a phrosiect Cartrefi Iach, Pobl Iach – sy'n rhoi cyngor ariannol ac ynni i aelwydydd sy’n agored i niwed yng ngogledd a de Cymru.
C.A.L.L. Llinell Gymorth Iechyd Meddwl - Cyngor Cymunedol a Llinell Wrando - 0800 132 737 (24 awr) neu Tecstiwch HELP a'ch cwestiwn i 81066.
Yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth emosiynol gyfrinachol / llenyddiaeth ar Iechyd Meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru.