Cyoeddwyd: 13 Tachwedd 2025
Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adolygiad cyflym newydd o’r dystiolaeth er mwyn gwella gofal brys a helpu i leddfu'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru. Ystyriodd yr adolygiad hwn syniadau o bob cwr o'r byd a defnyddiwyd yr ymchwil ddiweddaraf i helpu i wella gwasanaethau yng Nghymru. Nod gwasanaethau gofal brys yng Nghymru yw sicrhau y gall pobl gael y gofal sydd ei angen arnynt yn gyflym ac yn ddiogel, yn enwedig pan fydd ganddynt broblemau iechyd brys, heb yr angen i ymweld ag adrannau damweiniau ac achosion brys.
Mae rhai o'r syniadau addawol a nodwyd yn yr adolygiad yn cynnwys ei gwneud hi'n haws i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gael mynediad at brofion ar gyfer eu cleifion, agor mwy o ganolfannau triniaeth gofal brys, a chynnig gofal brys rhithwir. Mae gofal brys rhithwir yn golygu y gall pobl siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol dros y ffôn neu drwy fideo i gael cyngor brys, heb orfod teithio. Mae'r adolygiad hefyd yn awgrymu defnyddio offer clyfar i helpu i gyfeirio pobl at y gofal cywir fel llinellau cyngor ffôn, apiau sy'n helpu cleifion i wirio eu symptomau, ac offer sy'n cefnogi staff gofal iechyd i wneud penderfyniadau.
Mae'r adolygiad yn dangos, pan fydd gwasanaethau gofal brys wedi'u cynllunio'n dda, y gallant fod yn fwy diogel, yn gyflymach ac yn well i bawb. Er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, mae angen i wasanaethau fuddsoddi mewn hyfforddi staff, gwneud gwybodaeth yn glir, a sicrhau ei bod hi’n hawdd i bob cymuned gael mynediad at ofal. Mae hefyd yn bwysig bod pobl yn deall pryd a sut i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn, fel y gallant gael cymorth yn y ffordd gywir ar yr adeg gywir.
Er bod angen mwy o ymchwil o hyd, mae canfyddiadau'r adolygiad hwn yn ymddangos yn addawol ar gyfer lleihau pwysau ar ysbytai a helpu cleifion i gael y gofal cywir y tro cyntaf. Mae'r gwaith hwn yn rhoi man cychwyn cryf ar gyfer gwella sut mae gofal brys yn cael ei ddarparu yng Nghymru. Bydd astudiaethau yn y dyfodol yn helpu i gadarnhau'r syniadau hyn ac yn llywio newidiadau pellach.
Dywedodd Dr Kirsty Little, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
“System yw gofal brys, nid un gwasanaeth na lleoliad. Mae ein hadolygiad cyflym o’r dystiolaeth yn tynnu sylw at y ffaith y gall cydrannau gwasanaeth fel brysbennu digidol, gofal brys rhithwir, mynediad at ddiagnosteg, a chanolfannau gofal/triniaeth brys gefnogi gofal prydlon a diogel i gleifion, sy’n helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau brys ac argyfwng eraill.
Er mwyn i hyn weithio i Gymru, mae angen gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio'n dda, sy’n gynhwysol ac sydd wedi'u hategu gan hyfforddiant a chyfathrebu cryf. Mae gwerthuso parhaus hefyd yn hanfodol i sicrhau bod gwelliannau'n cael eu seilio ar dystiolaeth.”
Mae'r gwaith hwn yn gydweithrediad rhwng y Gwasanaeth Tystiolaeth (Cyfarwyddiaeth Ymchwil, Data a Digidol) a'r tîm Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol (Cyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gallwch ddarllen y crynodeb gweithredol a'r adroddiad technegol llawn isod.
Elfennau gofal brys a'u heffeithiolrwydd Crynodeb gweithredol
Elfennau gofal brys a'u heffeithiolrwydd Adroddia technegol