Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei diwygiad diweddaraf o offeryn Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (PHOF).
Ar 1 Ebrill 2019, derbyniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gyfrifoldeb am wasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae holl ddata diweddar a hanesyddol ar lefel bwrdd iechyd wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newid i ffiniau’r bwrdd iechyd, lle y bo’n bosibl.
Mae’r diwygiad hefyd yn diweddaru 13 o ddangosyddion gyda’r data diweddaraf sydd ar gael, ar draws pob dadansoddiad daearyddol a demograffig:
Mae offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd yn cynnwys dros 40 o ddangosyddion allweddol ar gyfer monitro iechyd a llesiant ar hyd a lled Cymru. Datblygwyd y fframwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ysbrydoli a llywio gwneuthurwyr penderfyniadau i ysgogi gweithredoedd sydd yn gwella iechyd y genedl.
Gellir ei ddefnyddio gan y Llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau’r sector preifat a gwirfoddol yn ogystal ag unigolion a’u teuluoedd i ysbrydoli a llywio gweithredu sydd yn gwella ac yn diogelu iechyd a llesiant. Mae’n gysylltiedig â dangosyddion a cherrig milltir Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd wedi cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Caryn Cox, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd: “Mae Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd wedi cael ei ddatblygu i ddeall yr effaith y mae ein hymddygiad ni, ymddygiad gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.
Er mwyn rhoi trosolwg o’r newidiadau dros amser, caiff y data yn yr offeryn ar-lein ei ddiwygio’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod mor gywir â phosibl. Mae’r diwygiad diweddaraf hwn yn cynnwys diweddariadau sydd yn rhoi cyfrif am newidiadau i ffiniau byrddau iechyd yng Nghymru.”
Os oes gennych unrhyw ymholiadau’n ymwneud â Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd neu os hoffech roi adborth, cysylltwch drwy anfon e-bost atom yn PHOF@wales.nhs.uk