Mae'r brechlyn Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) yn lleihau'r risg o orfod mynd i'r ysbyty o ganlyniad i’r feirws 82 y cant, yn ôl astudiaeth newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Daw'r canfyddiadau wrth i'r cynnig o frechiad RSV – a gyflwynwyd gyntaf yn 2024 i bobl 75-79 oed – gael ei ymestyn i bobl dros 80 oed yng Nghymru.
Mae'r astudiaeth hefyd yn darparu rhywfaint o'r dystiolaeth byd go iawn gyntaf o effaith y brechlyn. Canfu fod derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag RSV wedi gostwng dros 13 y cant ymhlith y grŵp oedran 75-79 oed cymwys rhwng mis Hydref 2024 a mis Ebrill 2025, er gwaethaf y ffaith bod y rhaglen yn ei chamau cynnar.
Mae RSV yn feirws cyffredin sy’n gallu arwain at broblemau iechyd difrifol – fel bronciolitis a niwmonia – mewn pobl hŷn a babanod. Mae'n arwain at rhwng 700 a 1,000 o dderbyniadau i'r ysbyty ymhlith pobl dros 75 oed bob blwyddyn. Bob blwyddyn, mae RSV yn arwain at hyd at 9,000 o apwyntiadau meddyg teulu.
Mae arbenigwyr iechyd yn pwysleisio bod sicrhau bod nifer uchel o bobl yn cael y brechlyn RSV nid yn unig o fudd i unigolion ond hefyd yn lleddfu'r pwysau ar GIG Cymru.
Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r canlyniadau cynnar hyn yn galonogol iawn ac yn dangos bod y brechlyn yn rhoi amddiffyniad cryf i oedolion hŷn yng Nghymru.
“Mae mwy na 100,000 o bobl 75-79 oed eisoes wedi manteisio ar y cynnig o gael brechiad RSV.
“Mae ehangu’r rhaglen frechu i bobl 80 oed a hŷn yn rhoi cyfle i ni atal hyd yn oed mwy o arosiadau yn yr ysbyty sy’n gysylltiedig â’r feirws RSV.
“Bydd hyn o fudd i unigolion, a hefyd yn helpu i leddfu’r pwysau ar feddygon teulu ac ysbytai yng Nghymru.
“Rydyn ni’n gwybod mai brechu yw’r ffordd orau o amddiffyn ein hunain ac eraill rhag afiechydon fel RSV a COVID-19. Byddwn i’n annog pawb sy’n cael eu gwahodd i fanteisio ar y cynnig o gael eu brechu’r gwanwyn hwn.”
Bydd rhaglen dal i fyny yn sicrhau bod pobl 80 oed a hŷn, a phreswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn, yn cael cynnig y brechlyn RSV rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni. Lle bo modd, bydd brechiad COVID-19 y gwanwyn yn cael ei gynnig ar yr un pryd.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-am-frechu-firws-syncytial-anadlol-rsv/