Mae pobl dros 60 oed yng Nghymru ar-lein ac yn cymryd rhan weithredol yn y cyfryngau cymdeithasol, sydd â'r potensial i fod yn offeryn pwysig i iechyd y cyhoedd.
Mae 77 y cant o bobl yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn yn defnyddio un neu fwy o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae 65 y cant yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol bob dydd. Mae'r canfyddiadau hyn o adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor a gyhoeddir heddiw o'r enw Iechyd y Boblogaeth mewn Oes Ddigidol: Patrymau yn y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru.
Nid oes gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd yng Nghymru, ond i'r rhai sy'n gwneud hynny (87 y cant o bobl yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn) mae'r adroddiad yn canfod:
Meddai'r awdur arweiniol Dr Jiao Song, Ystadegydd Iechyd Cyhoeddus, Adran Ymchwil a Gwerthuso, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae'n ddiddorol bod y cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cael eu hystyried yn rhywbeth i bobl iau, ond mae canfyddiadau'r adroddiad wedi amlygu bod cyfran uchel o'r rhai yn y grwpiau oedran hŷn yn ymgysylltu â'r cyfryngau cymdeithasol.”
Defnyddiodd yr adroddiad ddata a gasglwyd yn yr arolwg Technegol Ddigidol ac Iechyd 2018 - arolwg sy'n gynrychioliadol yn genedlaethol gyda 1,252 o drigolion yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn. Roedd yr arolwg yn cynnwys cwestiynau ar fynediad i'r rhyngrwyd a/neu dechnoleg ddigidol, canfyddiadau o rannu gwybodaeth sy'n ymwneud ag iechyd ar y cyfryngau cymdeithasol, statws iechyd a demograffeg.
Meddai Dr Catherine Sharp, Uned Cydweithredu Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol Bangor:
“Mae'r adroddiad hefyd yn datgelu bod pobl ag iechyd hunangofnodedig uwch a phobl sydd â ffordd iachach o fyw yn fwy tebygol o ddefnyddio un neu ragor o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol na'r rhai ag iechyd hunangofnodedig is a'r rhai ag ymddygiad sy'n niweidio iechyd.”
Yn ddiddorol, roedd y gyfran a oedd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyffredinol yn debyg ar draws grwpiau amddifadedd, ond roedd lefelau defnydd o Twitter a WhatsApp yn is ymhlith y rhai lleiaf cefnog.
Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae angen i ni barhau ymdrechion i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad, ond rydym yn cydnabod y gall y cyfryngau cymdeithasol gynnig llwyfan i gyrraedd cynulleidfa ehangach ac ymgysylltu'n wahanol â phoblogaethau am iechyd.
“Ar hyn o bryd, gan mwyaf mae systemau iechyd yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel cyfrwng i rannu gwybodaeth, ond nid yw'r dull hwn yn manteisio i'r eithaf ar y rheswm pam fo'r cyfryngau cymdeithasol yn gweithio - yr elfen rwydweithio. Wrth edrych i'r dyfodol, mae angen i systemau iechyd ddysgu sut i gymryd rhan mewn sgyrsiau ar lwyfannau o'r fath i gefnogi sylwgarwch ac apêl gyda'u cynulleidfaoedd; i fynd i'r afael â chredoau, agweddau, bwriadau ac ymddygiadau ar gyfer iechyd.”