Mae Dr Giri Shankar, Arweinydd Proffesiynol Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi derbyn MBE anrhydeddus gan Ei Mawrhydi i gydnabod ei wasanaethau i iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Mae Giri, sy’n wreiddiol o Bangalor yn India, wedi chwarae rhan fawr yn yr ymateb i bandemig y Coronafeirws yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Digwyddiadau.
Dywedodd Giri, “Mae cael fy nghydnabod fel hyn yn fraint wirioneddol. Rwyf bob amser wedi gweld fy ngwaith fel cyfle i wasanaethu'r cyhoedd a dim ond er budd pawb y bu fy niddordeb erioed. Rwyf bob amser wedi credu'n gryf, beth bynnag a wnewch, y dylech ei wneud â didwylledd ac ymroddiad. A dyna beth rydw i wedi ceisio ei wneud trwy gydol y pandemig.”
Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rwy’n falch iawn bod gwaith diflino ac ymroddiad Giri wedi cael ei gydnabod fel hyn. Mae wedi bod ar flaen y gad yn yr ymateb iechyd cyhoeddus yng Nghymru i’r Coronafeirws ac wedi bod yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom ni. Mae ei allu i weithio yn anhygoel. Mae bob amser yn fodlon gwneud pob tasg y mae gofyn iddo ei gwneud ac mae wedi dod yn wyneb a llais cyfarwydd ledled Cymru oherwydd y cannoedd o gyfweliadau y mae wedi’u rhoi i’r cyfryngau trwy gydol y 18 mis diwethaf.
“Ynghyd â’r holl staff yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, hoffwn ei longyfarch. Rydym yn hynod falch ohono. Diolch Giri a da iawn gan bob un ohonom.”
Ymunodd Giri ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2016 o Public Health England lle bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd Dros Dro ar gyfer Canolfan Dwyrain Lloegr Public Health England.
Ar ôl hyfforddi yn Bangalore, India, symudodd Giri i'r DU i gwblhau ei hyfforddiant ym maes iechyd y cyhoedd. Mae ei brif feysydd yn cynnwys parodrwydd ar gyfer argyfwng, twbercwlosis, ymchwil a datblygu a rhaglen hyfforddi epidemioleg maes.
Mae hefyd yn ddarlithydd anrhydeddus ym maes iechyd y cyhoedd ym Mhrifysgol East Anglia lle mae'n ymwneud yn weithredol ag addysgu a hyfforddi myfyrwyr meddygol.