Cyhoeddwyd: 31 Mawrth 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi’n adolygu ei Wasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol i sicrhau bod y gwasanaeth yn darparu gofal o'r ansawdd gorau i'r bobl sy'n ei ddefnyddio.
Fel rhan o hyn, rydym wedi dod i wybod am broblem gyda rhai o'n profion Hepatitis C i bobl sy'n byw gyda HIV. Mae hyn yn golygu nad yw rhai pobl sydd wedi hunan-ddatgan eu bod yn byw gyda HIV ac sydd wedi gofyn am brawf Hepatitis C drwy'r Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol wedi cael prawf am Hepatitis C. Mae hyn, sydd o ganlyniad i broblem dechnegol, yn berthnasol i ganlyniadau profion a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Profi a Phostio rhwng Mai 2020 a 25 Chwefror 2026.
Mae'n ddrwg iawn gennym fod hyn wedi digwydd. Rydym yn y broses o gysylltu â'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio i gynnig prawf iddynt. Rydym yn deall y gallai'r newyddion beri pryder i'r rhai sydd wedi’u heffeithio, ac rydym wedi sefydlu llinell gymorth i'w cefnogi.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cymryd camau ar unwaith i newid ein prosesau technegol i atal hyn rhag digwydd eto. Rydym hefyd wedi comisiynu adolygiad allanol annibynnol llawn o’r Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol.
Bob blwyddyn mae ein Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol yn prosesu bron i 100,000 o geisiadau am brofion iechyd rhywiol yng Nghymru. Mae'r nifer sydd wedi cael eu heffeithio gan y broblem hon yn cynrychioli cyfran fach iawn o'r profion hynny.
Dywedodd Dr. Robin Howe, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Heintiau, "Rydym yn deall y gallai'r sefyllfa hon achosi pryder, ac am ymddiheuro'n ddiffuant am unrhyw bryder a brofir. Mae achos technegol y broblem bellach wedi'i ddatrys yn llwyr. Rydym am roi sicrwydd i bawb bod hwn yn wasanaeth diogel i dderbyn cyngor a phrofion iechyd rhywiol drwyddo. Mae eich iechyd yn bwysig, ac rydym yn annog unrhyw un sydd angen gwasanaethau iechyd rhywiol i barhau i ddefnyddio'r Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol i ddiogelu eu hiechyd."
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.ircymru.online/. I unrhyw un sy'n dal i bryderu, mae llinell gymorth ar gael: 0800 0352 877. Mae ar agor dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 5pm a 9am i 4pm ar benwythnosau.
Am gyngor a chymorth iechyd rhywiol, cysylltwch â'ch clinig iechyd rhywiol lleol.
Gallwch hefyd gael cefnogaeth drwy gysylltu â'r sefydliadau canlynol:
Ymddiriedolaeth Terrence Higgins
GIG 111 i gael cymorth ar gyfer eich symptomau
Rydym wedi dod i wybod am broblem gyda'r profion a gynigir i bobl sy'n byw gyda HIV. Mae hyn yn golygu nad yw pobl sy'n byw gyda HIV ac sydd wedi gofyn am brofion am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys prawf Hepatitis C, wedi cael eu profi am Hepatitis C. Mae hyn yn berthnasol i geisiadau i'r Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol ar gyfer pobl sy'n byw gyda HIV, a dderbyniwyd rhwng Mai 2020 a 25 Chwefror 2026. Roedd y gwall o ganlyniad i broblem dechnegol yn ymwneud â'r llwybr profi.
Mae'n ddrwg iawn gennym fod hyn wedi digwydd.
Efallai yr ydych wedi’ch effeithio os ydych chi'n byw gyda HIV ac wedi defnyddio'r Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol i ofyn am brawf iechyd rhywiol ar unrhyw adeg rhwng Mai 2020 a 25 Chwefror 2026. Rydym wrthi’n cysylltu â phawb a allai fod wedi’u heffeithio'n uniongyrchol.
Rydym yn deall y gallai'r newyddion hyn fod yn destun pryder. Fodd bynnag, credir bod y risg o Hepatitis C i'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw gyda HIV yn isel. Mae llawer o bobl sy'n byw gyda HIV hefyd yn cael eu profi'n rheolaidd am Hepatitis C fel rhan o'u gofal rheolaidd, felly efallai eich bod eisoes wedi cael eich profi fel rhan o'ch gofal parhaus gyda gwasanaethau eraill. Rydym yn cynnig prawf newydd i bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y mater hwn er mwyn i ni allu roi eglurder a thawelwch meddwl.
Mae hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed sy'n achosi llid yr afu a gall arwain at niwed hirdymor i'r afu. Gellir ei drin â chwrs o dabledi, sy'n clirio'r feirws yn llwyddiannus yn y mwyafrif helaeth o gleifion o fewn 8-12 wythnos.
Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl â Hepatitis C unrhyw symptomau o gwbl, ac ni fyddai'n cael ei ddiagnosio heb brawf.
Rydym yn adolygu pawb sydd wedi nodi eu bod yn HIV positif wrth archebu prawf gan ein gwasanaeth. Lle bo angen, byddwn yn cynnig prawf Hepatitis C i bawb sydd ei angen.
Ydy. Fe wnaethon ni nodi a thrwsio'r broblem dechnegol ar 25 Chwefror 2026. Mae pawb sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth o'r dyddiad hwnnw ymlaen yn derbyn y profion cywir. Rydym hefyd yn cynnal adolygiad llawn o'n holl brosesau profi i sicrhau nad oes unrhyw broblemau eraill.
Ydy. Mae'r gwasanaeth yn ddiogel ac yn parhau i brosesu bron i 100,000 o geisiadau prawf ledled Cymru bob blwyddyn. Rydym yn annog unrhyw un sydd angen profion iechyd rhywiol i barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth.
Gallwch ffonio ein llinell gymorth benodedig ar 0800 0352 877. Mae ar agor dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 5pm a 9am i 4pm ar benwythnosau. Am gyngor a chymorth ehangach ar iechyd rhywiol, cysylltwch â'ch clinig iechyd rhywiol lleol.