Cyhoeddwyd: 27 Mehefin 2023
Yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UK NSC) yn 2016, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithredu newid i'r rhaglen Sgrinio Llygaid Diabetig yng Nghymru.
Cytunodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru y dylai Iechyd Cyhoeddus Cymru weithredu'r newid, a fydd yn gweld y bwlch sgrinio ar gyfer cyfranogwyr sgrinio llygaid diabetig sydd wedi'u nodi fel rhai sy'n wynebu risg isel o retinopathi diabetig yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio bob dwy flynedd.
Meddai Dr Sharon Hillier, Cyfarwyddwr Sgrinio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae'r newid hwn yn unol ag argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU a Phwyllgor Sgrinio Cymru. Mae'r dystiolaeth yn dangos ei bod yn ddiogel i bobl heb glefyd llygaid diabetig gael eu sgrinio bob dwy flynedd.
“Bydd pobl nad oedd eu dau sgrinio llygaid diabetig diwethaf wedi canfod unrhyw arwydd o glefyd llygaid diabetig yn cael eu sgrinio'n ddiogel bob dwy flynedd yn hytrach na phob blwyddyn.
Bydd pawb arall yn cael eu sgrinio fel arfer.
“Mae'r newid eisoes wedi'i weithredu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
“Bydd hyn yn galluogi gwasanaethau i weld pobl sy'n wynebu risg uwch o glefyd llygaid diabetig yn gynt.”
Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UK NSC) yw'r pwyllgor gwyddonol annibynnol sy'n gwneud argymhellion sgrinio i weinidogion y DU a'r GIG.
Yn 2016, argymhellodd y pwyllgor newid y bwlch sgrinio o bob blwyddyn i bob dwy flynedd ar gyfer pobl sy'n wynebu risg isel o glefyd llygaid diabetig. Roedd hyn yn dilyn astudiaeth fawr a ddangosodd ei bod yn ddiogel gwahodd pobl yn y grŵp risg isel hwn bob dwy flynedd yn hytrach na phob blwyddyn.
Pwyllgor Sgrinio Cymru yw'r fforwm cynghori cenedlaethol ar raglenni sgrinio iechyd. Mae'r pwyllgor yn ystyried argymhellion gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UK NSC).
Mae pobl yng Nghymru y mae'r newid yn effeithio arnynt yn cael eu hysbysu gan Wasanaethau Sgrinio, ac nid oes angen i ddefnyddwyr gwasanaethau sgrinio gymryd unrhyw gamau.