Cyhoeddwyd: 16 Mehefin 2022
Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan wedi dechrau cael ei chyflwyno yng Nghymru.
Mae'r rhaglen genedlaethol, sy'n cynnig cymorth wedi'i dargedu i bobl sy'n wynebu risg uwch o ddiabetes math 2, bellach yn cael ei chyflwyno yn y practisau meddygon teulu a fu'n ymwneud â cham cyntaf y rhaglen ledled y wlad.
Mae'r AWDPP yn golygu bod gweithwyr cymorth gofal iechyd ymroddedig, hyfforddedig gyda goruchwyliaeth gan ddeietegwyr, yn cyflwyno ymyriad byr i bobl sydd wedi cael prawf gwaed sy'n dangos eu bod yn wynebu risg uwch o ddiabetes math 2. Mae'r ymyriad yn helpu unigolion i ddeall eu lefel risg ac yn eu cynorthwyo i'w lleihau drwy newidiadau allweddol i'w deiet a lefel eu gweithgarwch corfforol.
Mae'r AWDPP yn cael ei chyflwyno fesul cam gyda gwerthusiad wedi'i ymgorffori, a fydd yn asesu canlyniadau'r rhaglen ac effeithiolrwydd yr ymyriad. Yn hanner cyntaf 2022, mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn dau glwstwr gofal iechyd sylfaenol ym mhob un o saith ardal bwrdd iechyd Cymru.
Dywedodd Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae dros 200,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes, ac mae gan naw o bob 10 ohonynt ddiabetes math 2. Gall diabetes math 2 gael effaith ddifrifol ar unigolion a'u teuluoedd.
“Mae tystiolaeth yn awgrymu, drwy gefnogi pobl i wneud newidiadau allweddol i'w ffordd o fyw, mewn dros hanner y bobl sy'n byw gyda diabetes math 2, gellid atal neu oedi eu cyflwr. Bydd yr AWDPP yn cefnogi pobl sy'n wynebu risg uwch o ddiabetes math 2 i wneud newidiadau a allai leihau'r risg hon.”
Meddai'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle a ymwelodd â staff a chleifion ym Mhort Talbot: “Bydd y rhaglen newydd yn canolbwyntio ar atal, gan ddarparu gofal a chymorth wedi'u teilwra ar gam cynharach, gan arwain at well gofal i gleifion a llai o bobl sydd angen gofal brys. Mae ein strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach yn canolbwyntio ar helpu pobl i wneud dewisiadau iachach a bydd y rhaglen newydd hon yn cefnogi'r gwaith hanfodol hwn ac yn helpu i leihau nifer y bobl sy'n byw gyda diabetes math 2 yng Nghymru”
Meddai Dr Amrita Jesurasa, ymgynghorydd mewn Meddyginiaeth Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Mae'r AWDPP yn adeiladu ar waith gwych a wneir gan feddygon teulu yn lleol i greu dull safonol o atal diabetes ar gyfer Cymru gyfan. Mae'r rhaglen yn cyd-fynd â chanllawiau NICE, Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan, egwyddorion gofal iechyd darbodus a mewnwelediadau o wyddor ymddygiad.
“Mae'r AWDPP wedi'i datblygu mewn ymgynghoriad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sefydliadau'r trydydd sector a phobl byw sy'n byw gyda diabetes math 2. Bydd ei heffaith, ei chyrhaeddiad a'i heffeithiolrwydd yn cael eu gwerthuso o'r dechrau, a byddwn yn defnyddio'r hyn a ddysgir o'r cam cyntaf hwn o gyflwyno'r rhaglen i lywio ei datblygiad wrth symud ymlaen.”
I gyd-fynd â lansio'r rhaglen, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Protocol Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, sy'n rhoi gwybodaeth fanwl a chymorth i weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â chyflwyno'r rhaglen.