Neidio i'r prif gynnwy

Deall profiadau pobl o olrhain cysylltiadau a hunanynysu

Cyhoeddwyd: Dydd Iau 26ain o Dachwedd 2020
 

Mae Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal dau brosiect i ddeall profiadau ac ymddygiadau pobl sydd wedi’u nodi eu bod wedi dod i gysylltiad ag achos Coronafeirws positif ac y mae swyddogion olrhain cysylltiadau wedi gofyn iddynt hunanynysu.

Defnyddir y mewnwelediad a geir i lunio ymateb parhaus Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r pandemig. Bydd yn ein cynorthwyo i ddatblygu deunyddiau cyfathrebu ac i wneud penderfyniadau ynghylch y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl wrth iddynt hunanynysu.

Trwy'r Arolwg Neges Destun ynghylch Hyder mewn Ymlyniad Cysylltiadau (ACTS), rhoddir cyfle i bobl y gofynnwyd iddynt hunanynysu ymateb i gyfres o negeseuon testun a chwblhau arolwg byr ar-lein er mwyn rhannu eu profiadau o'r gwaith olrhain cysylltiadau a’r broses hunanynysu.

Yn y cyfamser, mae'r Arolwg Mewnwelediadau Ymddygiadol ynghylch Ymlyniad Cysylltiadau at Hunanynysu (CABINS), yn gofyn i unigolion gymryd rhan mewn arolwg ffôn byr a grŵp ffocws ar-lein neu gyfweliad er mwyn rhannu eu barn.

Mae'r ddau brosiect yn helpu Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddeall yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu wrth hunanynysu a'r gefnogaeth sydd ei hangen i helpu pobl eraill yn ystod pandemig Coronafeirws.

Dywedodd Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae gwella ein dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiadau a gweithredoedd poblogaeth Cymru yn ystod pandemig Coronafeirws yn hanfodol i lunio ein hymateb iechyd y cyhoedd. Mae'r canfyddiadau a gasglwyd trwy'r ddau brosiect yn amhrisiadwy i ni a'n partneriaid mewn ymateb i'r pandemig. "

Dywedodd Dr Richard Kyle, Dirprwy Bennaeth Ymchwil a Gwerthuso ac arweinydd y rhaglen ymchwil hon: “Rydym ni i gyd wedi gorfod dysgu llawer yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf ac mae'r prosiectau hyn yn caniatáu inni gael mewnwelediad cyflym, amser real i wasanaethau a systemau a all ysgogi gwelliannau parhaus i’n hymateb. Rydym wedi datblygu rhaglen ymchwil y gallwn ei haddasu i fynd i'r afael â'r cwestiynau allweddol wrth iddynt godi tuag at gefnogi’r sawl sydd wedi dod i gysylltiad ag achos Coronafeirws yn well."

Lansiwyd y prosiectau ACTS a CABINS ill dau ym mis Tachwedd 2020 a byddant yn weithredol tan ddiwedd mis Mawrth 2021. Bydd hyn yn caniatáu i ymchwilwyr werthuso cyfnod hanfodol yr hydref/gaeaf pan fydd trosglwyddiad cymunedol yn debygol o fod ar ei uchaf.

Gallwch ddarllen rhagor am ACTS a CABINS yma.