Cyhoeddig: 18 Medi 2023
Wrth i wythnos newydd o ysgol a gwaith ddechrau gyda therfyn cyflymder 20 mya newydd yn ei le, mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn croesawu'r manteision iechyd a ddaw yn ei sgil. Mae tystiolaeth yn dangos y bydd 20mya nid yn unig yn lleihau'r risg o ddamweiniau traffig, gall hefyd helpu pobl i deimlo'n fwy diogel i gerdded a beicio mwy. Bydd hynny yn ei dro yn gwella iechyd corfforol pobl drwy helpu i fynd i'r afael â gordewdra a gwella eu llesiant meddyliol.
Gobeithio yn yr hirdymor y bydd yn lleihau nifer y cerbydau ar y ffyrdd gan arwain at lai o niwed i'r amgylchedd a gwella ansawdd aer. Bydd rhannu teithiau ceir ar gyfer teithio llesol hefyd yn gwneud siopau a busnesau lleol yn fwy hyfyw.
Nid yw'r newid o 30mya i 20mya yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i amseroedd teithio; mae'r cynnydd mewn amser teithio ar gyfer teithio trefol yn 17 eiliad y filltir yn unig a gallai fod yn llai mewn ardaloedd gwledig.
Meddai Sarah J Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru; “Dangoswyd bod teithio ar 20 mya yn lleihau'r risg o ddamwain a difrifoldeb y damweiniau sy'n dal i ddigwydd. Mae hefyd yn cynhyrchu llai o lygredd sŵn ac yn lleihau'r defnydd o danwydd. Mae'n annog pobl i gerdded a beicio, gan helpu i frwydro gordewdra a gwella llesiant meddyliol. Mae'r rhain i gyd yn debygol o gyfrannu at welliannau mewn iechyd a lleihau'r galw am wasanaethau iechyd.”