Cyhoeddwyd: 12 Mai 2022
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dathlu nyrsys a bydwragedd am eu cyfraniad anhygoel i iechyd a gofal.
Mae ymroddiad a chydnerthedd y proffesiwn nyrsio, a'u hangerdd am eu cyfraniad at ymyriadau iechyd a gofalu am eraill ac yn parhau i'n harwain yn hyderus at ddarparu iechyd a gofal, ar ôl Covid-19.
Mae'n rôl sy'n cynnig digonedd o gyfleoedd amrywiol, mewn gyrfaoedd sy'n ymestyn ar draws llawer o wahanol leoliadau. Ceir nyrsys mewn diwydiant, ymchwil, addysg, mewn lleoliadau iechyd cyhoeddus ac yn y lluoedd arfog a'r gwasanaeth Ambiwlans Awyr. Mae ymgynghorwyr nyrsio, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd hefyd yn cyfrannu'n werthfawr at ddatblygu a darparu gwasanaethau iechyd a llesiant ledled Cymru.
Mae Rhiannon Beaumont-Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn dweud bod gyrfa ym maes nyrsio yn hynod werth chweil:
“Ni allaf argymell nyrsio ddigon, gan ei fod mor amrywiol. Mewn unrhyw agwedd ar nyrsio, nid oes yr un diwrnod yr un fath a dyna ogoniant y peth. Fel gyrfa mae ganddo lawer i'w gynnig.”