Cyhoeddwyd: 15 Hydref 2021
Meddai Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymwybodol o fater gyda chanlyniadau profion PCR o Labordy DU sy'n prosesu samplau o bob rhan o'r DU, gan gynnwys rhai o Gymru.
“Gallwn gadarnhau nad ydym wedi nodi materion gyda'n canlyniadau profion PCR ein hunain.
“Rydym yn cydnabod y bydd canlyniad PCR negatif anghywir yn cael effaith ar bobl yr effeithir arnynt. Bydd pobl y mae'r mater hwn wedi effeithio arnynt yn cael neges destun gan wasanaeth negeseuon Profi ac Olrhain y GIG GOVUK.
“Os byddwch yn cael neges destun yn eich cynghori i gael eich ailbrofi, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn trefnu prawf PCR newydd. Dylai unrhyw un sydd â symptomau COVID-19 drefnu prawf PCR cyn gynted â phosibl, aros gartref a hunanynysu nes iddynt gael canlyniad prawf.”
Sylwch: Newidiwyd y stori hon ar 18 Hydref i gael gwared ar y gair ‘Goleudy’, gan nad oedd y labordy DU yr effeithiwyd arno yn rhan o rwydwaith Labordai Goleudu’r DU.