Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar mpox

Cyhoeddwyd: 22 Awst 2024

Gall Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau nad oes unrhyw achosion o Clade I mpox wedi’u hadrodd yng Nghymru ar hyn o bryd, nac unrhyw amrywiad arall.

“Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), Iechyd Cyhoeddus yr Alban, ac Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon, ac rydym yn barod i ymateb i achosion o mpox yng Nghymru pe baent yn digwydd.

“Mae'r risg gyffredinol i boblogaeth y DU o mpox yn parhau i fod yn isel.

“Mae symptomau cyffredin mpox yn cynnwys brech ar y croen neu friwiau llawn crawn a all bara sawl wythnos.  Gall hefyd achosi twymyn, pen tost /cur pen, poenau yn y cyhyrau, poen cefn, egni isel a nodau lymff chwyddedig.

“Os byddwch yn datblygu unrhyw symptomau o mpox, a'ch bod wedi teithio i ganolbarth Affrica yn ddiweddar neu os ydych wedi bod mewn cysylltiad ag achos wedi'i gadarnhau o mpox Clade I, ffoniwch GIG 111 neu ffoniwch eich meddyg teulu am asesiad.  Peidiwch â mynd i gyfleuster gofal iechyd oni bai bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn eich cyfarwyddo i wneud hynny.”

Mae achosion o mpox yn y DU, gan gynnwys yng Nghymru, yn cael eu hadrodd ar wefan UKHSA.