Cyhoeddwyd: 9 Ebrill 2021
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi cyngor gwyddonol arbenigol grwpiau arbenigol y DU bod manteision brechu gyda'r holl frechlynnau COVID-19 sy'n cael eu defnyddio yn parhau i fod yn drech na risgiau COVID-19. Mae COVID-19 wedi achosi dros 120,000 o farwolaethau yn y DU, gyda chyfartaledd o 30 o farwolaethau'r dydd yn dal i gael eu hadrodd. Mae'r rhaglen frechu eisoes wedi achub dros 6,000 o fywydau.
Yn dilyn adroddiadau am glot gwaed prin iawn a phenodol ar ôl brechu gyda brechlyn COVID-19 AstraZeneca, mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cadarnhau ar 7 Ebrill 2021 bod y math hwn o glot gwaed gyda phlatennau (celloedd gludiog) isel yn un o sgil-effeithiau posibl y brechlyn. Fodd bynnag, maent yn parhau i gynghori bod manteision brechu gyda brechlyn COVID-19 AstraZeneca yn parhau i fod yn drech na risgiau COVID-19 i'r mwyafrif helaeth o oedolion.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymwybodol o un achos a gadarnhawyd o'r math prin iawn hwn o glot gwaed yng Nghymru ar ôl cael brechlyn COVID-19 AstraZeneca ymhlith dros 1 filiwn o bobl sydd wedi cael y brechlyn hwnnw.
Y cyngor gwyddonol arbenigol gan y JCVI yw bod y risgiau a'r manteision yn parhau'n gryf o blaid brechu gyda brechlyn AstraZeneca ar gyfer y rhai 30 oed a throsodd, a'r rhai o dan 30 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu rhoi mewn mwy o risg o ganlyniadau difrifol o haint COVID-19.
Fodd bynnag, mae'r JCVI yn cynghori y dylid cynnig brechlyn arall i oedolion 18-29 oed nad oes ganddynt gyflyrau iechyd sylfaenol, gan gydbwyso'r risgiau a'r manteision. Bydd byrddau iechyd yng Nghymru yn cynnig brechlynnau eraill i'r grŵp hwn, tra'n parhau i gynnig yr holl frechlynnau sydd ar gael i bob oedran arall.
Dylai'r rhai sydd wedi cael dos cyntaf o frechlyn AstraZeneca beth bynnag fo'u hoedran, barhau i gael ail ddos. Hyd yma ni chadarnhawyd unrhyw achosion o'r clotiau gwaed prin iawn a phenodol ar ôl cael yr ail ddos o'r brechlyn.
Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae'r risg o'r clotiau gwaed prin iawn hyn yn isel iawn ac mae'r risgiau a'r manteision o gymharu â chael clefyd COVID-19 yn dal i fod o blaid brechu.
“Er enghraifft, mae'r risg y bydd pobl yn eu 40au yn marw os byddant yn dal COVID-19 yn 1,000 y filiwn, felly os bydd 1 filiwn yn eu 40au yn dal COVID-19 yna byddai 1,000 yn marw, byddai 10,000 yn gorfod mynd i'r ysbyty a byddai 160,000 yn cael ‘COVID hir’. Pe bai'r 1 filiwn yn cael eu brechu â dau ddos o frechlyn AstraZeneca byddai'n atal dros 900 o farwolaethau, 9,000 o achosion o orfod mynd i'r ysbyty a 145,000 o achosion o COVID hir, gyda'r posibilrwydd y byddai pedwar achos o glotiau gwaed prin ac un farwolaeth ychwanegol.
“Nid oes unrhyw feddyginiaeth na brechlyn a gawn heb risg ac rydym yn derbyn y risgiau isel iawn hyn oherwydd y manteision a gawn. Er enghraifft, mae'r risg o glotiau gwaed mewn menywod sy'n cymryd y Bilsen Atal Cenhedlu Geneuol yn uwch na'r rhai nad ydynt yn cymryd y bilsen, a derbynnir hyn oherwydd y manteision.
“Mae sgil-effeithiau cyffredin ar ôl brechu yn normal ac yn ddisgwyliedig. Ar gyfer yr holl frechlynnau a gymeradwywyd yn y DU, gall y sgil-effeithiau hyn gynnwys braich ddolurus, teimlo'n flinedig, pen tost/cur pen, poenau ysgafn neu symptomau tebyg i'r ffliw, a thwymyn ysgafn sydd fel arfer yn para hyd at ddau neu dri diwrnod ar ôl brechu.
“Os bydd unigolyn yn profi'r symptomau canlynol sy'n dechrau pedwar diwrnod i bedwar wythnosau ar ôl y brechlyn dylent geisio gofal meddygol yn brydlon:
Pen tost/cur pen difrifol newydd nad yw'n ymateb i boenladdwyr syml
Pen tost/cur pen anarferol sy'n ymddangos yn waeth wrth orwedd i lawr neu blygu drosodd
Pen tost/cur pen ar y cyd â golwg aneglur, cyfog a chwydu, gwendid, teimlo'n gysglyd neu ffitiau
Brech neu gleisio pigiad pin heb esboniad i ffwrdd o safle'r pigiad
Diffyg anadl, poen yn y frest, chwyddo yn y coesau neu boen cyson yn y stumog.
“Mae diogelwch y cyhoedd yn parhau i fod yn flaenllaw o ran ein pryderon a bydd yr MHRA yn parhau i fonitro diogelwch brechlynnau gan weithio'n agos gyda'r JCVI a bydd y mater hwn yn cael ei adolygu'n barhaus.
“Brechu yw'r ffordd orau o hyd i amddiffyn eich hun rhag clefyd COVID-19.”