Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Adroddiad Modiwl 1 Ymchwiliad Cyhoeddus y DU i Covid-19

Heddiw, cyhoeddwyd adroddiad terfynol Modiwl 1 Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19, sy'n archwilio gwydnwch a pharodrwydd ar gyfer y pandemig ar draws pedair gwlad y DU. 

Hoffem ddiolch i'r Farwnes Hallett a thîm yr Ymchwiliad Cyhoeddus am eu gwaith trylwyr a diwyd.

Rydym yn ymrwymedig i welliant parhaus a dysgu o brofiadau'r gorffennol i ddiogelu iechyd a llesiant pobl Cymru yn well.  Byddwn nawr yn adolygu canfyddiadau ac argymhellion Modiwl 1 yn ofalus, fel rhan o'n hymdrechion parhaus i wella diogelwch iechyd y cyhoedd, parodrwydd a gwydnwch yng Nghymru, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid ledled Cymru a'r DU ehangach, wrth weithredu'r argymhellion.

Rydym yn cydnabod yr effaith ddwys y mae'r pandemig wedi'i chael ar gynifer o bobl, ac mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf yn mynd i'r bobl a gollodd anwyliaid, ffrindiau a chydweithwyr o ganlyniad i'r pandemig.