Neidio i'r prif gynnwy

DATGANIAD: Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol

Cyhoeddwyd: 24 Chwefror 2026

Yn dilyn adolygiad, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi rhai problemau gweithredol yn ein Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol: 

  • Prosesau diogelu ar gyfer pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth profi a phostio iechyd rhywiol ar-lein a chymunedol nad oeddent yn effeithiol nac yn bodloni'r safonau deddfwriaethol gofynnol. Roedd hyn yn golygu bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi trosglwyddo gwybodaeth ddiogelu i fyrddau iechyd, yn hytrach nag i awdurdodau lleol fel y dylem fod wedi’i wneud.  
  • Rhai prosesau trin data, yn ymwneud â data personol, nad oeddent yn effeithiol nac yn bodloni'r safonau gofynnol.  

Mor fuan ag y daethom i wybod am problemau hyn ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2025, fe gymeron ni gamau ar unwaith i'w datrys. Fe wnaethom ymgymryd ag asesiad risg i sicrhau ei fod yn ddiogel i barhau â’r gwasanaeth. Hefyd fe wnaethom wella ein prosesau diogelu mewnol ar gyfer pobl sy'n cysylltu â'n Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol er mwyn sicrhau bod y prosesau a'r gweithdrefnau diogelu cywir yn cael eu dilyn. 

Rydym wrthi'n adolygu achosion pobl a gysylltodd â'n Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol efallai nad ydynt wedi cael eu diogelu'n briodol. Lle bo angen, rydym yn cyfeirio'r achosion hyn at yr awdurdod lleol perthnasol am reolaeth a chefnogaeth briodol.  Rydym hefyd wrthi’n cynnal adolygiad trylwyr o'n gwasanaeth profi a phostio iechyd rhywiol i wella prosesau, ansawdd a sicrwydd Mae hyn yn cynnwys adolygu ein platfform ar-lein. Rydym wedi gweithredu proses ar-lein newydd i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu diogelu’n briodol wrth ddefnyddio’r platfform. Mae newidiadau hefyd yn cael eu gwneud i’n gwefan profi a phostio Iechyd Rhywiol. Rydym hefyd yn cynnal ymarfer edrych yn ôl i sicrhau bod unrhyw wybodaeth diogelu hanesyddol yn cael ei rhannu gydag awdurdodau lleol.

Roedd y pryderon ynghylch trin data y gwnaethom eu nodi’n faterion gweinyddol mewnol yn bennaf. Roedd achosion o anfon canlyniadau prawf i’r bwrdd iechyd anghywir ond rhannwyd canlyniadau prawf a data personol cysylltiedig o fewn y GIG yn unig. Rydym wedi gwneud newidiadau i’n gweithdrefnau trin data i atal hyn rhag digwydd eto. Rydym wedi rhoi gwybod am y digwyddiadau data i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.  

Fe wnaethom nodi nifer fach o bobl a dderbyniodd ganlyniadau profion ac atgyfeiriadau anghywir neu wedi’u hoedi. Lle nodwyd canlyniadau anghywir, fe wnaethom eu cywiro ar unwaith a hysbysu'r person dan sylw. Fe wnaethom gynnig y gofal dilynol priodol iddyn nhw hefyd lle bo angen. Lle rydym wedi nodi oedi gyda chanlyniadau profion ac atgyfeiriadau, fe wnaethom ymateb yn brydlon i sicrhau y cawsant eu hanfon allan mor gyflym â phosibl. 

Dywedodd yr Athro Fu-Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio a Chyfarwyddwr Meddygol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru “Hoffwn ymddiheuro’n ddiffuant i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan y problemau hyn. Byddwch yn dawel eich meddwl ein bod wedi gweithredu ar unwaith i gywiro pethau. Mae ein gwasanaethau yma i chi o hyd, boed angen prawf iechyd rhywiol cyfrinachol arnoch wedi’i anfon i'ch cartref, mynediad at gondomau, neu gyngor ar unrhyw bryderon iechyd rhywiol – mae ein timau yma i'ch cefnogi. Byddwn yn comisiynu ymchwiliad allanol annibynnol llawn i’r problemau hyn. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu o’r profiad hwn a deall yn union beth aeth o’i le, fel y gallwn wella ein prosesau. 

Bob blwyddyn mae ein Gwasanaeth Iechyd Rhywiol yn prosesu bron i 100,000 o geisiadau am brofion iechyd rhywiol.  Mae'n fan diogel ar gyfer unigolion sy'n derbyn cyngor ac yn cael eu profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a phroblemau iechyd rhywiol eraill. Dylai unrhyw un sydd angen gwasanaethau iechyd rhywiol barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth i ddiogelu eu hiechyd.  

Os ydych wedi cael prawf iechyd rhywiol ac nad ydym wedi bod mewn cysylltiad â chi ynglŷn â chanlyniadau anghywir neu oedi, NID OES angen i chi gysylltu â ni, gan fod pob defnyddiwr gwasanaeth yr effeithiwyd arno eisoes wedi cael gwybod ac wedi derbyn unrhyw gyngor dilynol angenrheidiol. I unrhyw un sy'n dal i boeni, mae llinell gymorth ar gael: 0800 0352 877. Bydd ar agor 8am-8pm dydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 4pm ar y penwythnos. 

Cwestiynau cyffredin