Cyhoeddwyd: 20 Mawrth 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu'r adroddiad o Fodiwl 3 yr Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 a'i ystyriaethau o effaith y pandemig Covid-19 ar systemau gofal iechyd yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae ein meddyliau gyda phawb a gollodd anwyliaid, ffrindiau a chydweithwyr yn ystod y pandemig Covid-19. Rydym yn cydnabod effaith ddwys y pandemig ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru.
Byddwn yn ystyried yr adroddiad a'r argymhellion yn fanwl ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, partneriaid ledled Cymru a'r asiantaethau iechyd cyhoeddus eraill ledled y DU, i sicrhau bod unrhyw newidiadau neu welliannau angenrheidiol yn cael eu hymgorffori wrth baratoi ar gyfer ac ymateb i unrhyw argyfwng yn y dyfodol. Mae parhau
i ddysgu o'n profiad o'r pandemig yn hanfodol i wella sut rydym yn diogelu iechyd a llesiant ein poblogaeth yn y dyfodol.