18 Mawrth 2026
Dywedodd Dr Christopher Johnson, pennaeth y Rhaglen Clefydau Ataliadwy trwy Frechu (VPDP) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Rydym yn ymwybodol o'r adroddiadau o glefyd meningococol ymledol yn Swydd Gaint ac mae ein meddyliau gyda'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio.
"Er bod clefyd meningococol yn brin, gall fynd yn ddifrifol iawn yn gyflym. Mae data gwyliadwriaeth diweddar yn dangos bod achosion yng Nghymru yn parhau i fod yn gymharol isel, gyda 18 o hysbysiadau o glefyd meningococol wedi'u cofnodi yn 2023 a 19 wedi'u cofnodi yn 2024.
"Mae brechu’n ddull allweddol o amddiffyn rhag clefyd meningococol. Yng Nghymru, cynigir brechlynnau sy'n amddiffyn rhag sawl math o facteria meningococol — gan gynnwys mathau A, B, C, W ac Y — fel rhan o raglen imiwneiddio rheolaidd y GIG i blant bach (math meningococol B) a’r rhai yn eu harddegau (mathau meningococol ACW&Y)."
"Y peth pwysicaf y gall pobl ei wneud yw bod yn ymwybodol o'r symptomau a gofyn am gyngor meddygol brys os ydyn nhw'n pryderu. Gall diagnosis cynnar a thriniaeth gyda gwrthfiotigau wella canlyniadau'n sylweddol.
"Mae yna nifer o symptomau gan gynnwys tymheredd uchel, pen tost / cur pen difrifol, chwydu, gwddf stiff, sensitifrwydd i olau, dryswch neu gysgadrwydd, dwylo a thraed oer, poen yn yr aelodau, a brech nad yw'n pylu pan gaiff ei wasgu. Ni fydd pawb yn cael yr holl symptomau ac nid yw'r frech bob amser yn ymddangos, felly os bydd rhywun yn mynd yn sâl yn sydyn neu os yw'r symptomau'n gwaethygu'n gyflym, mae'n bwysig ceisio cymorth meddygol ar unwaith."